Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid 10-18 oed
Mae Gweithwyr Cymorth Ieuenctid yn helpu pobl ifanc sy’n agored i niwed rhwng 10 a 18 oed i feithrin gwydnwch a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw, dysgu a chyflawni.
Wedi’i lleoli mewn ysgolion uwchradd ledled Sir Gaerfyrddin, mae Gweithwyr Cymorth Ieuenctid yn cynnig cymorth ynghylch ymddygiad, cydberthnasau, pwysau gan gyfoedion, iechyd ac addysg i alluogi pobl ifanc i gymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau a gwneud dewisiadau mwy hyddysg.
Cysylltwch â’r gwasanaeth drwy eich ysgol neu ffoniwch 01554 744322.
Mae Gweithwyr Ieuenctid ôl-16 yn cefnogi pobl ifanc 18-25 oed a’u teuluoedd, er mwyn helpu i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial.
Maent yn hyrwyddo addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc a byddant yn gweithio gyda hwy ar gydberthnasau, incwm, tai a’u hiechyd a’u lles emosiynol.
Cysylltwch â’r gwasanaeth ar 01554 744322