DASH (Elusen sy’n ymdrin â Cham-drin Domestig)
Elusen sy’n ymdrin â Cham-drin Domestig (DASH) – DASH Gwasanaeth Camdrin Domestig Caerfyrddin , Calan a Threshold.
Mae DASH yn cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 0-16 oed sydd wedi gweld neu brofi cam-drin domestig yn y cartref.
Mae’r prosiect yn cynnig sesiynau un i un, cymorth grŵp a gweithgareddau i helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu hemosiynau, dysgu am berthnasoedd iach, cynyddu eu hyder a’u hannog i fynegi eu hunain a chael hwyl.
Gall DASH hefyd helpu rhieni i adeiladu perthynas well gyda’u plant a deall effaith cam-drin domestig arnyn nhw.
Gwasanaeth Camdrin Domestig Caerfyrddin: 01267 238410
Threshold (Llanelli): 01554 752422
Calan DVS (Amman Valley): 01269 597474