Yn unol ag Adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 mae dyletswydd ar Awdurdodau Lleol Cymru i asesu a darparu cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer y plant yn eu hardaloedd.
Mae’r ddyletswydd i asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn ran o agenda gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod bod plant yn profi tlodi o ran profiadau, cyfleoedd a dyheadau, ac mae hyn yn effeithio ar blant o bob gefndir.
Daeth rhan gyntaf y ddyletswydd, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae, i rym ar 1af Tachwedd 2012.
I weld y Gorchymyn, y Rheoliadau a’r Canllawiau Statudol dilynwch y dolennau isod:
Penododd Cyngor Sir Caerfyrddin Swyddog Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae y Bartneriaeth Plant yn swyddog arweiniol i gwblhau’r asesiad. Gwelir isod y crynodeb o ganfyddiadau Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Sir Gaerfyrddin.