Mae nifer o grwpiau lleol yn cael eu cynnal yn yr ardal, mae llawer ohonynt yn rhad ac am ddim, mae eraill yn codi ffi.


Os ydych chi’n rhedeg grŵp i blant 0-5 oed, cysylltwch â ni fel y gallwn rannu’r wybodaeth yma ar ein gwefan


TEULUOEDD GYDA’I GILYDD

  • Mae sesiynau Teuluoedd Gyda’n Gilydd yn sesiynau Aros a Chwarae AM DDIM i chi a’ch plentyn.  Maent yn rhoi cyfle i chi gwrdd â rhieni eraill, i’ch plant chwarae, mwynhau gweithgareddau hwyliog a chrefft.
  • Mae’r grŵp yn cwrdd ar: Dydd Llun 1.00pm – 2.45pm
  • Yn: Festri Tabor, Crosshands SA14 6SU
  • Ffoniwch Carys ar 07483 966166 neu Sam ar 07483 966168
  • Darganfyddwch fwy drwy ymweld â thudalen Facebook Plant Dewi

CANOLFAN DEULUOEDD Y TYMBL

  • Mae Canolfan Deuluoedd y Tymbl wedi’i lleoli yng nghanol y Tymbl ac yn darparu darpariaeth a chefnogaeth AM DDIM i deuluoedd yn yr ardal o feichiogrwydd i blant bach
  • Ar hyn o bryd maent ar agor ar gyfer sesiynau ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Mercher
  • I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook Canolfan Deuluol y Tymbl, ffoniwch nhw ar 07496 239473 neu e-bostiwch y Ganolfan Deuluoedd ar tumblefamilycentre@outlook.com

Meysydd chwarae yn ardal Cwm Gwendraeth

Gall meysydd chwarae ddarparu lle diogel i blant chwarae’n rhydd yn yr awyr agored. Dyma restr o barciau yn ardal Cwm Gwendraeth:

  • Parc y Tymbl/Parc Mynydd Mawr
  • Parc Llannon
  • Parc Cefneithin
  • Parc Cross Hands
  • Parc Gorslas
  • Parc Llyn Llech Owain
  • Parc Pontyberem
  • Parc Penygroes
  • Parc Drefach

GRWPIAU TI A FI

Mae grwpiau Ti a Fi yn sesiynau i chi a’ch plentyn, maent yn cael eu rhedeg gan y Mudiad Meithrin ac yn cynnig cyfle gwych i chi a’ch babi gwrdd ag eraill, chwarae a chymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol Cymreig. 

Mae tâl i’r grwpiau hyn.

CYLCH MEITHRIN

Efallai mai Cylch Meithrin fydd cyfle cyntaf eich plentyn i fynychu lleoliad ar ei ben ei hun.  Nod y grwpiau yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o 2 oed i oedran Ysgol. 

Mae plant yn cael cyfle i fod gyda phlant eraill ac i ddysgu trwy chwarae yn bennaf yn yr Iaith Gymraeg.

Mae rhai grwpiau ar agor bum diwrnod yr wythnos, eraill ar rai diwrnodau yn unig.

Pan fydd eich plentyn yn cael lle mae fel arfer am nifer penodol o ddiwrnodau yr wythnos, a fydd yn amrywio yn dibynnu ar eich anghenion a’r lleoedd sydd ar gael. 

Mae’r pris yn amrywio o grŵp i grŵp.

Gyda’r Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallech dderbyn hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir yr wythnos, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn.

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button