Addysg
Gwybodaeth am wneud cais am le addysg i’ch plentyn. Rydym yn argymell cysylltu â’r darparwr/ysgol cyn i chi gyflwyno cais.
Addysg yn y cartref – Addysg Ddewisol yn y Cartref
Mae addysg yn y cartref yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio pryd mae rhieni a gofalwyr yn addysgu eu plant gartref yn hytrach na’u hanfon i’r ysgol. Nid yw addysgu eich plentyn yn y cartref yn benderfyniad y dylid ei wneud ar chwarae bach. Bydd yn golygu ymrwymiad mawr o ran eich amser, eich egni a’ch arian.
Os ydych yn ystyried addysgu’ch plentyn gartref, bydd angen ichi ddarparu addysg addas