Addysg

Gwybodaeth am wneud cais am le addysg i’ch plentyn. Rydym yn argymell cysylltu â’r darparwr/ysgol cyn i chi gyflwyno cais.

Addysg Llawn amser oed 4+

Sut i ymgeisio?
Gwneud cais am le amser llawn mewn ysgol gynradd (4 oed) – Cyngor Sir Caerfyrddin
Yn 4 oed mae hawl gan eich plentyn i fynychu’r ysgol gynradd yn amser llawn. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi anfon eich plant i’r ysgol nes eu bod yn 5 oed, ond mae llawer o rieni’n gweld bod dechrau’n gynnar fel hyn yn fuddiol. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’r ysgol yr hoffech i’ch plentyn ei mynychu cyn gwneud cais. Mae cysylltu â’r ysgol a siarad â’r athrawon yn ffordd wych o wybod a ydych yn gwneud y dewis iawn i chi a’ch plentyn. Dim ond ar ôl i chi wneud cais a chael cadarnhad gennym fod eich plentyn wedi’i dderbyn y gall eich plentyn ddechrau yn yr ysgol.

Ble i ymgeisio ar gyfer prydiau ysgol am ddim?

Rhaid gwneud ceisiadau i’r awdurdod lleol lle mae’r ysgol wedi’i lleoli. Ar gyfer plant sy’n mynychu ysgol yn Sir Gaerfyrddin, rhaid gwneud pob cais i’r adran ganlynol:

Er mwyn ymgeisio ar gyfer prydiau Ysgol am ddim:

Grant Datblygu Disgyblion (pupil development grant)

Grantiau ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisgoedd ysgol ac offer

Os yw eich plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim, gallai fod mwy o help ar gael drwy Hanfodion Ysgol (PDG – Mynediad). Edrychwch i weld a ydych yn gymwys am gymorth gyda hanfodion ysgol.

Gall plant sy’n derbyn gofal a dysgwyr sy’n derbyn prydau ysgol am ddim gael grant gan Lywodraeth Cymru os ydynt:

  • mynd i mewn i ddosbarth derbyn yn yr ysgol gynradd
  • ar ddechrau unrhyw un o Gyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 (cynradd ac uwchradd)
  • 4, 7, 11 neu 14 oed mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion

Mae cyllid o hyd at £125 ar gael i bob plentyn cymwys, ac eithrio’r rhai ym Mlwyddyn 7 sydd â hawl i £200.

Bydd y gronfa’n talu am wisg ysgol a chit chwaraeon, offer ar gyfer tripiau y tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored, ac offer ar gyfer gweithgareddau o fewn y cwricwlwm, fel dylunio a thechnoleg.

Sut i ymgeisigo:
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol: Cymorth Ariannol – Cyngor Sir Caerfyrddin

Cliciwch yma am Newidiadau i Ddyddiad Dechrau Addysg Llawn Amser – Cyngor Sir Caerfyrddin

Cynorthwyo Plant Milwyr yn ysgolion Cymru

Cyfamod Lluoedd Arfog

Mae rhagor o wybodaeth am Brosiect y Cymorth i Addysg Plant Milwyr yng Nghymru gan:

Millie Taylor

Swyddog Prosiect Cymru dros Addysg Plant Milwyr

ssce@wlga.gov.uk

02920 468 616

https://www.sscecymru.co.uk

Diolch yn fawr iawn am yr holl wybodaeth, mae wir wedi bod o gymorth felly diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button