Addysg

Gwybodaeth am wneud cais am le addysg i’ch plentyn. Rydym yn argymell cysylltu â’r darparwr/ysgol cyn i chi gyflwyno cais.

Addysg Feithrin Rhan amser i blant 3 & 4 oed

Yn Sir Gaerfyrddin, gall pob plentyn gael mynediad at addysg Feithrin rhan amser am 3 tymor naill ai mewn ysgol (a gynhelir) neu gyda darparwr nas-cynhelir cymeradwy, hyd at y tymor ar ôl eu pedwerydd pen-blwydd a chyn dechrau ysgol amser llawn.

Addysg Feithrin i blant 3 a 4 oed- Canllaw i rieni a gofalwyr


Mae gan bob plentyn hawl i gael addysg feithrin (a elwir yn addysg gynnar yn flaenorol) o’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Mae pob awdurdod lleol yn darparu o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg feithrin, a gallai hyn fod mewn:
• Ysgol leol
• Meithrinfa ddydd
• Cylch Meithrin

Gweler isod, restr o leoliadau sy’n cynnig Addysg Feithrin:
Rhestr Lleoliadau Nas Cynhelir – Cylchoedd a Meithrinfeydd
Rhestr o Ysgolion 3-11

Meini Prawf Cymhwystra ar gyfer Cyllid Addysg Feithrin Ran-amser (Meithrinfa ddydd neu Cylch Meithrin)

– Bydd eich plentyn yn gymwys i ddechrau Addysg Feithrin ran-amser yn y tymor yn dilyn ei drydydd pen-blwydd, am dri thymor, hyd nes y bydd yn gymwys i ddechrau addysg amser llawn yn y tymor ar ôl ei bedwerydd pen-blwydd.

– Rhaid i chi ddarparu copi o dystysgrif geni eich plentyn.

– Rhaid i chi gwblhau ffurflen gais gan nodi nifer y sesiynau yr hoffech eu hawlio. (Sylwer: mae hwn yn gais ar wahân i Gynnig Gofal Plant Cymru.)

Yn Sir Gaerfyrddin, i fod yn gymwys ar gyfer Addysg Feithrin wedi’i hariannu:
– Rhaid i blant fynychu o leiaf dwy sesiwn Addysg Feithrin yr wythnos.
– Ni fyddwn yn rhannu cyllid Addysg Feithrin rhwng darparwyr cymeradwy.

Manylion y Sesiynau
Mae lleoedd rhan-amser yn cynnig hyd at 10 awr yr wythnos o Addysg Feithrin, gan ddechrau yn y tymor ar ôl trydydd pen-blwydd eich plentyn hyd at ddiwedd y tymor y maent yn troi’n bedair oed.

Gall opsiynau sesiynau gynnwys:

  • Pum sesiwn yr wythnos: 2 awr y dydd
  • Pedair sesiwn yr wythnos: 2.5 awr y dydd

Mae argaeledd yn dibynnu ar eich dewis o ddarparwr addysg feithrin nas cynhelir cymeradwy. Cysylltwch â’ch darparwr o’ch dewis yn gynnar – gall rhai gynnal rhestrau aros.

Sut i Wneud Cais:
Cais am Gyllid Addysg Blynyddoedd Cynnar – Fy Nghyfrif

Noder:
Rhaid cyflwyno’r cais am Addysg Feithrin a Ariennir gyda darparwr nad yw’n cael ei gynnal ond sydd wedi’i gymeradwyo drwy’r ddolen a ddarperir isod. Nid yw’n rhan o broses gwneud cais Cynnig Gofal Plant Cymru.

  • Dylid cyflwyno ceisiadau yn ystod y tymor y bydd eich plentyn yn troi’n dair oed; bydd unrhyw geisiadau cynnar yn cael eu gwrthod.
  • Rhaid cyflwyno ceisiadau am gyllid o leiaf 10 diwrnod cyn dechrau’r tymor newydd.
  • Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried yn hwyr, a all arwain at oedi cyn talu cyllid i’ch darparwr o’ch dewis.
  • Rhaid i nifer yr oriau y gwneir cais amdanynt gyfateb i nifer yr oriau sesiwn y mae eich plentyn yn eu mynychu.
  • Unwaith y caiff ei awdurdodiad, bydd rhieni/gofalwyr a darparwyr yn derbyn e-bost yn cadarnhau’r gymeradwyaeth. Yna telir y cyllid yn uniongyrchol i’r darparwr.

Ar gyfer ymholiadau ynghylch Cyllid Addysg Blynyddoedd Cynnar, cysylltwch â’r Tîm Blynyddoedd Cynnar drwy e-bost:
EnqChildcareEduOffer@carmarthenshire.gov.uk

Meini Prawf Cymhwystra ar gyfer Addysg Feithrin gydag Ysgol 3-11

Sut i wneud cais:

Gwneud cais am le rhan-amser mewn meithrinfa (3 oed) – Cyngor Sir Caerfyrddin

Y Cynnig Gofal Plant

Yn ogystal â 10 awr yr wythnos o gyllid Addysg Blynyddoedd Cynnar, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael 20 awr yr wythnos o ofal plant wedi’i ariannu.  I gael rhagor o wybodaeth, gwasgwch yma

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button