Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar gan Prifysgol Cymru ac Yr Athrofa

Ydych chi’n gweithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar? Erioed wedi breuddwydio am wneud gradd? Erioed wedi meddwl am ennill gradd, ond methu rhoi’r gorau i’ch swydd? Erioed wedi ystyried bod modd gwneud gradd mewn DWY flynedd? Efallai mai dyma’r cyfle i chi… Darperir y radd ddwy flynedd ddwys hon un noswaith yr wythnos ac ambell Sadwrn er mwyn galluogi myfyrwyr i astudio tra hefyd yn cynnal swydd.

  • Mae i alluogi myfyrwyr ennill gradd mewn llai o amser na graddau tair blynedd traddodiadol. Cyrsiau yng Nghaerdydd, Abertawe neu Caerfyrddin. Astudiwch yn y lleoliad mwyaf cyfleus i chi.
  • Rhaglenni Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar cydnabyddir gan Gofal Cymdeithasol Cymru fel cymwysterau i weithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar.

Am wybodaeth pellach am y radd a sut i wneud cais – neu os ydych am sgwrs anffurfiol, Glenda Tinney – 01267 676605 – g.tinney@uwtsd.ac.uk neu dewch i ymweld â ni am sgwrs ar un o’n diwrnodau agored

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *