Mamolaeth

Ffair Mamolaeth a Rhiant Newydd FFAIR MAMOLAETH A RHIANT NEWYDD

Rydym yn gyffrous iawn i gynnal  Ffair Mamolaeth a Rhiant Newydd ar Fedi 22ain yn Neuadd y Gwendraeth yn RHAD AC AM DDIM a byddwn wrth ein boddau pe baech yn ymuno.

 

Bydd cyfleoedd i chi gwrdd a sgwrsio gyda nifer o wasanaethau y byddwch efallai yn eu defnyddio wedi i chi gael eich babi.

 

Bydd y rhain yn cynnwys

 

•           Ymwelwyr Iechyd – Gwybodaeth am gysgu diogel, bwydo babanod a diddyfnu ac ati

 

•           Bydwragedd – I ddarparu gwybodaeth ynghylch rhoi’r gorau i ysmygu, bwyta’n iach,

brechiadau yn ystod beichiogrwydd a dangos clipiau fideo o’r Uned Dan Arweiniad

Bydwragedd a’ wardiau esgor yn Ysbyty Glangwili.,

 

•           Staff Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir Gâr – i gynghori ar osod seddi ceir plant yn ddiogel a

diogelwch mewn ceir.

 

•           Llyfrgell Cewynnau aml-ddefnydd Babanod Eco (Gwasanaeth benthyca Cewynnau aml-

ddefnydd).

 

•           Cymraeg i Blant a Mudiad Meithrin – Gwybodaeth am ysgolion cyn ysgol lleol.

a darpariaeth rhiant a fabi o dan ymbarél Mudiad Meithrin

 

•           Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd – Darparu cymorth diduedd, am ddim, cefnogaeth,

cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o ofal plant, cymorth i deuluoedd a materion yn

.           ymwneud â theuluoedd.

 

•           Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru – Cyngor gwerthfawr i sicrhau bod eich

cartref mor ddiogel â phosibl a chynnig gwiriadau Diogelwch Cartref am ddim.

 

•           Canolfan Deuluoedd y Tymbl a Phlant Dewi – grwpiau a gweithgareddau lleol am ddim i

deuluoedd

 

Bydd hefyd yn gyfle gwych i chi gwrdd â  Gweithwyr Cymorth y  Tîm Integreiddio a  rhieni disgwylgar erall a newydd o’r ardal.

 

Croeso i chi alw heibio rhwng 10yb a 2yp a gobeithiwn eich gweld yno. Cofrestrwch yma

Pregnacy

Dyma ble mae darpar famau yn cael gofal gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ystod eu beichiogrwydd a ble mae apwyntiadau gyda bydwraig yn cael eu gwneud. Mae gofal mamolaeth/cyn-geni yn dechrau cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn feichiog a gallwch drefnu hyn drwy gysylltu â bydwraig neu feddyg teulu yn eich meddygfa leol.

Ewch i GIG 111 Cymru i gael rhagor o wybodaeth (dim ond ar gael yn y Saesneg)

Gwasanaethau Mamolaeth Hywel Dda

Mae gwasanaethau mamolaeth Hywel Dda yn rhoi gofal i fenywod beichiog a’u teuluoedd ar draws tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, sy’n cynnwys adnoddau defnyddiol.

Amseroedd clinig cyn-geni Cwm Gwendraeth

Dydd Llun 9.20am -12pm – Y Tymbl yng Nghanolfan Feddygol Cross Hands

Dydd Mawrth 9.20am -12pm – Pen-y-groes yng Nghanolfan Feddygol Cross Hands

Dydd Mercher 9.20am – 12pm – Pont-iets/Pontyberem ym Meddygfa Pont-iets

Eich hawliau yn y gwaith yn ystod beichiogrwydd

Ffynhonnell wych o wybodaeth am ddarpar famau a’u hawliau i weithio. Teuluoedd sy’n Gweithio | Archifau Beichiogrwydd – Teuluoedd sy’n Gweithio (Sylwch fod y wefan yn Saesneg yn unig)

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Grŵp Bwmp a Babi Glangwili

Mae Grŵp Facebook Bwmp a Babi Glangwili (gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda) ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd. Mae’r grŵp Facebook yn lle i rannu profiadau a chael cyngor gan eraill sy’n mynd drwy brofiadau tebyg. (Grŵp preifat yw hwn ac mae angen ichi ymuno â’r grŵp).

Addysg a Chymorth Cyn-geni Cymru Gyfan

Mae’r Grŵp Facebook Addysg a Chymorth Cyn-geni Cymru Gyfan ar gyfer menywod beichiog a’u teuluoedd ledled Cymru er mwyn gallu cael gafael ar wybodaeth sy’n ymwneud â beichiogrwydd a genedigaeth.

Daw’r wybodaeth oddi wrth nifer o Fyrddau Iechyd ledled Cymru sydd wedi dod at ei gilydd i ddarparu deunyddiau addysg cyn-geni i fenywod wrth iddynt baratoi ar gyfer genedigaeth eu baban. (Grŵp preifat yw hwn ac mae angen ichi ymuno â’r grŵp).

Best Beginnings

Yn gweithio i ymgysylltu â rhieni, eu harfogi, eu haddysgu a’u grymuso, o feichiogi, i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd bywyd eu plant. Ewch i’r wefan yma (Sylwch fod y wefan yn Saesneg yn unig)

Gwybodaeth am fwydo ar y fron

Bwydo ar y Fron – Llaeth Mam

Mae tudalen Facebook Bwydo ar y Fron – Llaeth Mam yn cynnig cymorth â bwydo ar y fron i’r rheiny yn Sir Gaerfyrddin a’r cyffiniau.

Cymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron

Mae Cymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron (ABM) yn sefydliad gwirfoddol ac mae’n cefnogi mamau a theuluoedd, gan gynnig hyfforddiant a siarad dros deuluoedd sy’n bwydo ar y fron ar lefel eiriolaeth genedlaethol. (Sylwch fod y wefan yn Saesneg yn unig)

Mae adnoddau am ddim ar gael ar y wefan yn ystod pandemig COVID-19.

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button