prev
next
play
pause

Diogelwch yn y Cartref

Mae meddwl am ddiogelwch yn y cartref yn ffordd bwysig o helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn iach. Ar gyfer rhieni, mae hyn yn golygu bod yn ymwybodol o’r peryglon a allai achosi anafiadau i blant, ac yna gweithredu strategaethau er mwyn helpu i’w hatal. Er enghraifft, defnyddio gatiau grisiau, cadw moddion mewn cabinet wedi’i gloi neu storio cemegau peryglus megis hylifau glanhau mewn cypyrddau uchel.

Y strategaeth bwysicaf i’w defnyddio er mwyn cadw plant yn ddiogel yw goruchwyliaeth, neu fod yn agos i’ch plentyn wrth iddo chwarae, archwilio a dysgu.

Bydd eich Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg yn trafod diogelwch yn y cartref gyda chi ar adegau cysylltiad allweddol, er enghraifft pan fydd plant yn dechrau symud o gwmpas mwy (oddeutu 6 mis), ond mae’n bosibl y byddant yn trafod y mater gyda chi yn ystod unrhyw ymweliad. Mae’n bosibl y byddant hefyd yn cynnal asesiad diogelwch yn y cartref sy’n golygu y byddant yn mynd drwy restr gynhwysfawr er mwyn eich helpu chi i feddwl am ffyrdd a allai wneud eich cartref yn fwy diogel i’ch plentyn.

 

Cliciwch yma ar gyfer neges y mis o ran diogelwch yn y cartref!

Yn ogystal, cynigir archwiliad diogelwch yn y cartref yn rhad ac am ddim i deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Byddant yn dod i asesu’r risg tân yn eich cartref ac yn gosod larwm tân, am ddim. Gall eich ymwelydd iechyd Dechrau’n Deg wneud yr atgyfeiriad hwn ar eich rhan ond gallwch hefyd gysylltu â’r gwasanaeth yn uniongyrchol: Archwiliad Diogelwch yn y Cartref.

Hapus iawn gyda pha mor gyflym yr anfonwyd y manylion allan.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button