prev
next
play
pause

Cynnig Gofal Plant

Darparwyr Gofal Plant

Gwybodaeth i Ddarparwyr

Beth yw'r Cynnig Gofal Plant?

Bydd Y Cynnig Gofal Plant newydd yn rhoi hyd at 30 awr o Addysg Gynnar a gofal plant i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant 3 a 4 oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd Y Cynnig yn adeiladu ar hawl bresennol plant i gael Addysg Gynnar yn ystod y tymor ysgol ac yn darparu hyd at 30 awr o ofal plant ar gyfer naw wythnos o’r gwyliau ysgol.

Beth ydy hyn yn ei olygu i mi fel darparwr?

Ar yr amod eich bod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru gallech dderbyn cyllid ar gyfer plant cymwys sy’n manteisio ar y cynnig yn eich lleoliad.
Yn achos taliadau plant sy’n dechrau cael oriau o dan Y Cynnig Gofal Plant o fis Ionawr 2023 ymlaen, rhaid defnyddio’r gwasanaeth digidol hwn.
Os ydych chi eisoes yn darparu’r Cynnig Gofal Plant, mae’n dal angen ichi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth digidol newydd.
Ni fydd rhieni yn gallu dewis eich lleoliad gofal plant os nad ydych chi wedi cofrestru.
Gall rhieni ddewis defnyddio unrhyw ddarparwr gofal plant yng Nghaerfyrddin ar yr amod ei fod wedi cael ei ddewis i fod yn gyflenwr ar gyfer Y Cynnig ar ran yr awdurdod lleol. Gall rhieni ddewis defnyddio darparwyr o’r tu allan i’r sir. Fodd bynnag, bydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn cofrestru fel cyflenwr.

Oes rhaid i mi ddarparu'r Addysg Gynnar er mwyn darparu elfen gofal plant y cynnig?

Nac oes. Bydd rhai plant yn parhau i gael Addysg Gynnar mewn lleoliadau nas cynhelir a gynhelir. Nid oes rhaid i ddarparwyr gofal plant ddarparu elfen Addysg Gynnar ac elfen gofal plant am Y Cynnig.

Oes rhaid i mi allu darparu'r cynnig am 48 wythnos y flwyddyn er mwyn cymryd rhan?

Nac oes. Gall rhieni fanteisio ar y cynnig trwy ddarparwyr gwahanol sy’n gweddu orau i’w hamgylchiadau. Gall darparwyr sy’n cynnig darpariaeth yn ystod y tymor ysgol yn unig, neu ddarpariaeth yn ystod y gwyliau ysgol yn unig, barhau i ddarparu’r cynnig yn dibynnu ar anghenion y rhieni.

Beth fydd y gyfradd tâl?

Bydd pob darparwr yn derbyn tâl o £5.00 yr awr am bob plentyn sy’n derbyn elfen gofal plant y cynnig.

Alla i godi tâl ychwanegol ar rieni?
Alla i godi tâl ychwanegol ar rieni?

Na allwch. Ni allwch godi cyfradd tâl ychwanegol fesul awr os ydych yn codi mwy na £5.00 yr awr fel rheol.

Alla i godi tâl ar gyfer bwyd a gweithgareddau ychwanegol?

Gallwch. Os oes angen, gallwch godi tâl ar rieni am elfennau ychwanegol, megis:

  • Bwyd
  • Cludiant
  • Gweithgareddau oddi ar y safle y gall fod angen talu amdanynt

Mae Llywodraeth Cymru yn enrhifo tâl ar gyfer bwyd fel y canlyn:

  • Pryd: £2.50
  • Byrbryd: 75c

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, ni ddylid codi mwy na:

  • £9.00 y dydd llawn (tua 10 awr) Cynnwys 3 phryd a 2 fyrbryd
  • £5.75 y sesiwn hanner diwrnod (tua 5.5 awr) Cynnwys 2 fryd ac 1 byrbryd
  • 75c y sesiwn lle mae byrbryd ond nad oes bryd

Sut bydda i'n cael fy nhalu?

Mewngofnodwch i’r gwasanaeth digidol yn https://www.llyw.cymru/mewngofnodi-i-gyfrif-darparwr-ar-gyfer-cynnig-gofal-plant-cymru   a chwiliwch am y ddolen Hawliadau trwy ddangosfwrdd y darparwr/lleoliad i weld rhestr o’r taflenni amser wythnosol.
Bydd y system yn creu taflenni amser wythnosol, ac mae’r rhain ar gael i’r lleoliad eu hadolygu a’u cyflwyno o 19:00 bob dydd Gwener.
Gellir cyflwyno taflenni amser yn wythnosol neu mewn batsh, hyd at gyfanswm o ddau fis o daflenni amser.

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Cysylltwch â’ch gwasanaeth gwybodaeth i Deuluoedd lleol am gymorth i gofrestru’ch Gofal Plant, neu cliciwch ar y ddolen ganlynol gan Lywodraeth Cymru :https://www.llyw.cymru/cymorth-i-ddarparwyr-gyda-chynnig-gofal-plant-cymru

neu ffoniwch 03000 628628

Darparwyr yn rheoli cytundebau Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae’r ddolen isod ar gyfer  darparwyr gofal plant, gan gynnwys sut i weld, derbyn a newid cytundebau ar gyfer oriau wedi’u hariannu Cynnig Gofal Plant Cymru.

Darparwyr yn rheoli cytundebau Cynnig Gofal Plant Cymru

Darparwyr yn hawlio taliadau o Gynnig Gofal Plant Cymru

Sut mae lleoliadau gofal plant yn cyflwyno taflenni amser i hawlio taliadau am oriau wedi’u hariannu gan Gynnig Plant Cymru.

Darparwyr yn hawlio taliadau o Gynnig Gofal Plant Cymru

 

Delivering the Childcare Offer

Delivering the Childcare Offer

Delivering the Childcare Offer

Diolch yn fawr iawn am yr holl wybodaeth, mae wir wedi bod o gymorth felly diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button