Cymraeg i Blant
Mae’ch plentyn yn tyfu i fyny mewn byd lle mae’r rhan fwyaf o blant yn siarad o leiaf dwy iaith – gwnewch yn siŵr bod eich un chi yn gallu hefyd.
Mae’r prosiect Cymraeg i Blant yn cynnig ystod eang o weithgareddau hwyliog, am ddim i’ch cefnogi chi a’ch plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg:
tylino babanod a sesiynau ioga babanod i fagu hyder mewn sesiynau stori a chân Cymraeg a llawer mwy Swyddog Cymraeg i Blant Sir Gaerfyrddin Lynwen Thomas
(Caerfyrddin, Cydweli a Llandeilo)
lynwen.thomas@meithrin.cymru

Hoffech chi siarad Cymraeg gartref gyda’ch plant?
Mae Clwb Cwtsh yn rhaglen flasu wyth wythnos llawn hwyl sy’n canolbwyntio ar siarad Cymraeg gyda phlant ifanc. Mae wedi’i anelu at rieni sy’n disgwyl, rhieni/gofalwyr ac aelodau estynedig o’r teulu.

Cwrs byr, hwyliog, anffurfiol 8 wythnos yn canolbwyntio ar siarad Cymraeg. Mae’r cwrs yn addas i rieni/gofalwyr/teulu estynedig/staff ac unrhyw un sydd am ddechrau ar eu taith Gymreig yn Sir Gaerfyrddin.

Ebostiwch clwbcwtsh@meithrin.cymru i gofrestru
I ddysgu mwy am Clwb Cwtsh, Cliciwch yma

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button