➭ Y broses ymgeisio ar gyfer rhieni/gofalwyr
Bydd ceisiadau’n cymryd hyd at 14 diwrnod i’w prosesu oherwydd y nifer disgwyliedig o geisiadau. Bydd y cyllid yn dechrau o’r diwrnod y caiff y cais ei gymeradwyo. Anogir rhieni i gyflwyno cais gyda’r HOLL dystiolaeth gywir. Bydd hyn yn cyflymu’r broses.
Ffurflen Gais i Rieni
Mae’r ffurflen gais ar-lein ar gael isod
https://www.llyw.cymru/cael-30-awr-o-ofal-plant-ar-gyfer-plant-3-4-oed?
(Sylwch fod y ffurflen gais yn cysgu ar ol amser)
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn ariannu GOFAL PLANT yn unig. Ni allwch wneud cais am oriau addysg rhan amser trwy’r cais hwn.
Am fwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o leoliadau ar gael ar ein tudalen https://fis.carmarthenshire.gov.wales/lleoliadau-cymeradwy-cyfredol/?lang=cy
