Dwy Wobr i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin

Dwy Wobr i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin

Gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin wedi llwyddo i ennill gwobr lefel efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr.  Mae Gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn gynllun sicrhau ansawdd sydd â safonau â thema, proses archwilio ac ardystio sy’n cydnabod arfer gorau.

Gall gofalu am rywun deimlo’n ynysig iawn, peri gofid ac achosi straen. I ofalwyr ifanc, gall hyn gael effaith negyddol ar eu profiadau a’u deilliannau o ran addysg, gan gael effaith barhaol ar eu cyfleoedd bywyd.  Mae cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn cynnwys gofalwyr o bob oedran ac ym mhob sefyllfa gan gynnwys; Gofalwyr Ifanc, Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc, Rhieni/Gofalwyr sy’n gofalu am blentyn ag anabledd neu broblemau iechyd meddwl, gofalwyr sy’n gofalu am frawd/chwaer ac ati.

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wedi ennill y wobr trwy ennyn ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â gofalwyr a bellach, cânt eu cydnabod fel ‘Arweinwyr Gofalwyr’ sy’n gallu nodi a chyfeirio gofalwyr, yn ogystal ag atgoffa pawb o bwysigrwydd ymwybyddiaeth gofalwyr, gan ddarparu gwybodaeth y mae mawr ei hangen a helpu gofalwyr i sylweddoli nad ydynt ar eu pennau eu hunain wrth wynebu heriau posibl. Dyluniwyd y cynllun i gefnogi cydymffurfio â darnau allweddol o ddeddfwriaeth genedlaethol a lleol, gan gynnwys ymrwymiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, a deddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Dywedodd Leanne McFarland, Swyddog Gwybodaeth i Deuluoedd a Gofal Plant: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyflawni’r Wobr Efydd sy’n cydnabod y gefnogaeth y mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn ei rhoi i ofalwyr. Rydym yn gwbl ymrwymedig i barhau i gydweithio â’r Gwasanaeth Gofalwyr i gefnogi gofalwyr yn Sir Gaerfyrddin o ran eu gwybodaeth a’u llesiant.”

Gwobr Ansawdd

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) Sir Gaerfyrddin wedi ennill Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf i gydnabod ei waith.  Maent wedi ennill y wobr hon yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ac eleni yw’r drydedd flwyddyn iddynt ei hennill.  Yn dilyn adolygiad llawn, trafodaeth â swyddogion GGD, partneriaid a defnyddwyr gwasanaeth ac arsylwadau o ddarpariaeth y GGD, teimlwyd y dylai GGD Sir Gaerfyrddin gadw’r Wobr yn llawn.

Ers yr adolygiad diwethaf, mae gwelliannau sylweddol wedi bod yn y ddarpariaeth a’r broses o rannu gwybodaeth, yn enwedig ar ffurf ddigidol.  Mae cefndir helaeth o hyd gan GGD Sir Gaerfyrddin mewn rhoi gwybodaeth o ansawdd i deuluoedd lleol.  GGD Sir Gaerfyrddin yw’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd cyntaf yng Nghymru i ennill y Wobr ers i’r set o safonau gael eu hadolygu a’u hymestyn i gynnwys: Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd

Mae’r Wobr Ansawdd wedi bod yn ffordd gadarnhaol iawn o ddathlu’r gwaith gwych y mae GGD Sir Gaerfyrddin yn ei wneud i gefnogi teuluoedd lleol.  Mae’n broses o sicrhau ansawdd ac yn fframwaith gwella ansawdd yn genedlaethol.  Mae cael y Wobr yn dangos bod GGD Sir Gaerfyrddin yn rhoi gwybodaeth o’r safon orau i deuluoedd ac yn cadw teuluoedd wrth wraidd ei waith. Mae hefyd yn dangos bod y GGD yn rhoi gwybodaeth o ansawdd uchel am opsiynau a phosibiliadau a allai fod yn anhysbys ac yn anhygyrch fel arall.

“Mae gwybodaeth yn offeryn allweddol ar gyfer rhieni, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.  Roedd Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn broses werthfawr a oedd yn ein galluogi i wella meysydd a sicrhau newid wrth dynnu sylw at y gwaith gwych yr ydym yn ei wneud i gefnogi teuluoedd.” Mari Gravell, Swyddog Allgymorth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Mae gan GGD Sir Gaerfyrddin wybodaeth hygyrch, gywir ac o ansawdd am y gwasanaethau sydd ar gael i rieni a theuluoedd. Mae hon yn sail i’r holl fentrau, gwasanaethau a phrosiectau sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a rhieni.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://fis.carmarthenshire.gov.wales/?lang=cy neu ffoniwch 01267 246555

 

sdr

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *