Cymorth Cywir Adeg Gywir

Beth yw ‘Cymorth Cywir Adeg Gywir’?

Rydym yn darparu gwasanaethau i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Sir Gaerfyrddin.

Bydd anghenion y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael eu diwallu gan eu teuluoedd a gwasanaethau cyffredinol fel canolfannau hamdden, parciau, llyfrgelloedd, ysgolion a gwasanaethau iechyd.

Efallai y bydd angen cymorth cynnar neu ychydig o help ychwanegol ar rai teuluoedd i reoli pethau fel ymddygiad plant, cyllidebu a chyngor ar dai, gwella eu cymuned a rhwydweithiau cymorth.

Rydym hefyd yn darparu cymorth wedi’i dargedu i blant, i phobl ifanc ac i deuluoedd sy’n profi anawsterau ac sydd ag anghenion lluosog megis ymddygiad anodd a heriol, iechyd emosiynol gwael a dynamig teuluol cymhleth.

Bydd gan nifer llai o deuluoedd anghenion sylweddol sy’n gofyn am gynllun Gofal a Chymorth penodol a ddarperir gan y Gwasanaethau Plant, i sicrhau bod teuluoedd yn ddiogel ac nad ydynt mewn perygl.

Mae Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru (CYSUR) wedi cynhyrchu’r fframwaith “Y Cymorth Cywir Adeg Cywir” i egluro pa wasanaethau sydd ar gael ar gyfer gwahanol lefelau o angen.

Rydym am glywed gennych chi

Rydym am i’r fframwaith hwn fod mor ddefnyddiol â phosibl ac felly mae angen eich adborth arnom i wneud gwelliannau. Os oes gwybodaeth ar goll neu wedi dyddio, cysylltwch â gwybplant@sirgar.gov.uk

NODWEDDION

Anghenion Lefel 1
Plant ag anghenion cyffredinol craidd fel rhianta, iechyd ac addysg. Yn nodweddiadol, mae’r plant hyn yn debygol o fyw mewn amgylchedd gwydn ac amddiffynnol lle caiff eu hanghenion eu diwallu.


Y BROSES ASESU

Nid oes angen unrhyw gymorth/asesiad ychwanegol ar y plant hyn y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael i bawb.


Asiantaethau Allweddol

Gwasanaethau cyffredinol sy’n darparu Cymorth ar y lefel hon:

IECHYD

Mae’r Ymwelydd Iechyd yn allweddol i gyflawni Rhaglen Plant Iach Cymru sy’n ganolog i ddarparu gwasanaeth blaengar, cyffredinol sy’n cynnig ystod o ymyriadau ataliol a chynnar.

ADDYSG

GOFAL PLANT A CHWARAE

CYMORTH I DEULUOEDD/ RHIANTA

GWAITH IEUENCTID

CYMUNEDOL

NODWEDDION

Anghenion Lefel 2
Gellir diffinio’r plant hyn fel rhai sydd angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol neu ragor gymorth i wella addysg, rhianta neu ymddygiad neu i ddiwallu anghenion iechyd.

Os cânt eu hanwybyddu gall y materion hyn ddatblygu’n bryderon sy’n destun gofid i’r plentyn neu i’r person ifanc.


Y BROSES ASESU

Nid oes angen proses asesu ffurfiol a gall asiantaethau ddefnyddio eu dulliau asesu eu hunain. Fodd bynnag, gellir cwblhau asesiad y Fframwaith Asesu’r Teulu ar y Cyd (JAFF) os credir ei fod yn ddefnyddiol.

Dylid cyflawni pob cynllun gweithredu gyda’r plentyn/teulu i nodi eu gryfderau a’i hanghenion. Dylai’r cynllun gweithredu nodi anghenion ychwanegol y plentyn, gwasanaethau priodol ac ymyriadau i ddiwallu’r anghenion hynny a phwy fydd yn gweithredu fel y gweithiwr allweddol os yw’n briodol.

ASESIADAU’R FFRAMWAITH ASESU’R TEULU AR Y CYD:

Adnoddau Gweithwyr Allweddol

Rhan 1: Cais am Gymorth
Rhan 2: Asesiad ar gyfer Cymorth Asisantaeth Unigol/Amlasiantaeth
Rhan 3: Cynllunio, Adolygu a Chau o ran Cymorth Asiantaeth Unigol ac Amlasiantaeth


ASIANTAETHAU ALLWEDDOL

Asiantaethau allweddol a all ddarparu cymorth ar y lefel hon (Gellir dod o hyd i gefnogaeth gyffredinol yn Lefel 1):

IECHYD

ADDYSG

GOFAL PLANT A CHWARAE

CYMORTH I DEULUOEDD/RIANTA

ANABLEDD

CYMORTH IEUENCTID

PERTHNASAU

CYMUNEDOL

HYFFORDDIANT A CHYFLOGAETH

NODWEDDION

Anghenion Lefel 3
Mae’r Haen hon yn berthnasol i’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd hynny sy’n profi anawsterau a’r rheiny y nodwyd bod angen ymateb cydgysylltiedig wedi’i dargedu arnynt. Gall hyn fod trwy ddull amlasiantaeth y Tîm o Amgylch y Teulu. Yn aml gall dull TAF ddarparu cymorth dwys i deuluoedd sy’n lleihau pryderon neu sy’n mynd i’r afael â nifer o bryderon i leihau’r tebygolrwydd y bydd problemau’n gwaethygu. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd pryderon amddiffyn plant penodol neu bryderon Plentyn mewn Angen yn dod i’r amlwg pan fydd yn rhaid ystyried gwasanaethau plant statudol ar gyfer y plant hyn.

Bydd plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n profi anawsterau yn byw mewn mwy o adfyd na’r rhan fwyaf o blant eraill neu’n fwy agored i niwed na’r mwyafrif.


Y BROSES ASESU

Lle bo angen ymyrraeth amlasiantaeth, nodir dull y Tîm o Amgylch y Teulu

Bydd angen cwblhau asesiad (Fframwaith Asesu Teuluol ar y Cyd) JAFF lle bydd gweithiwr allweddol yn cydlynu Cynllun o amgylch y plentyn a’r teulu.  Os nad yw anghenion y plentyn yn glir, yn anhysbys neu ddim yn cael eu diwallu a bod pryderon diogelu brys, byddai hyn yn dynodi bod y broses Lefel 4 yn fwy priodol.

Os teimlir ar ôl cwblhau asesiad Fframwaith Asesu’r ar y Cyd bod anghenion y plentyn yn cyfiawnhau ymyrraeth statudol, dylid dilyn y Protocol CAMU I FYNY/I LAWR (Gweler Atodiad 5).

Mae’n bosibl y bydd angen cymorth gan y Gwasanaethau Ataliol i gefnogi plentyn sy’n symud allan o wasanaethau statudol, a hynny gan ddefnyddio cynllun gweithredu CAMU I LAWR y cytunwyd arno. Gallai hyn gynnwys parhau â chymorth amlasiantaethol neu asiantaeth unigol, cymorth wedi’i gydlynu i alluogi’r plentyn a’r teulu i gamu yn ôl i gymorth cyffredinol a gwell.

ASESIADAU JAFF:

Adnoddau Gweithwyr Allweddol

Rhan 1: Cais am Gymorth
Rhan 2: Asesiad ar gyfer Cefnogaeth Sengl/Aml-asiantaeth
Rhan 3: Cynllunio, Adolygu a Chau o ran Cymorth asiantaeth unigol ac amlasiantaeth


ASIANTAETHAU ALLWEDDOL

Asiantaethau allweddol a allai ddarparu cymorth ar y lefel hon (gweler hefyd Lefel 2)

IECHYD

  • CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed)
  • Meic (llinell gymorth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor i blant yng Nghymru)
  • Prosiect Amethyst (cymorth iechyd meddwl, rhieni a gwarchidwaid)

CYMORTH I DEULUOEDD

ANABLEDD

CAM-DRIN DOMESTIG

  • Threshold (Sefydliad cam-drin domestig)
  • Calan (Elusen cam-drin domestig)
  • Carmdas (Gwasanaethau Cam-Drin Domestig Caerfyrddin)

NODWEDDION

Anghenion Lefel 4
Plant sydd angen ymyrraeth statudol ac sydd angen Asesiad Gofal a Chymorth ynghyd â Chynllun pan fo angen.

Plentyn sydd angen gofal a chymorth:
Gall y plant hyn fod yn gymwys ar gyfer gwasanaeth Gofal a Chymorth gan Wasanaethau Plant statudol a gallent fod mewn perygl o ddatblygu anghenion acíwt/cymhleth os nad ydynt yn derbyn ymyriad statudol cynnar. Os dyrennir gweithiwr cymdeithasol bydd yr unigolyn hyn fel arfer yn gweithredu fel y gweithiwr proffesiynol arweiniol ac yn cydlynu gwasanaethau

Cysur (Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru)


Y BROSES ASESU

Bydd y Gwasanaethau Plant Statudol yn penderfynu ar eu hymateb yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd yn yr atgyfeiriad
Os yw’n briodol byddant yn cynnal asesiad cymesur o anghenion gofal a chymorth plentyn ac yn cwblhau Cynllun Gofal a Chymorth. Yn dilyn hyn, mae’n bosibl y bydd yr achos yn :

  • cael ei gau
  • camu i lawr i gymorth ataliol
  • cael ei weithredu

Cysylltiadau Defnyddiol a chysylltiadau ar gyfer adrodd am bryderon am blentyn

Strategaeth ymadael
Bydd y Gwasanaethau Plant Statudol yn gweithio gyda’r plentyn a’i deulu i leihau’r risg i blentyn sydd angen gofal a chymorth ac yn y pen draw yn symud oddi wrth ymyrraeth statudol fel y disgrifir yn yr adran Cymorth wedi’i Dargedu.


ASIANTAETHAU ALLWEDDOL

Asiantaethau allweddol a allai ddarparu cymorth ar y lefel hon:

GWASANAETHAU ARBENIGOL PLANT

CYMORTH CYFFURIAU AC ALCOHOL

IECHYD MEDDWL

GWASANAETHAU GWIRFODDOL A CHYMUNEDOL
(Gweler Lefel 1 a 2)

TROSEDD

NODWEDDION

Anghenion Lefel 5
Dim ond cyfran fach o blant fydd yn  y lefel hon. Y plant hyn fydd y rhai sy’n agored iawn i niwed neu sy’n profi’r lefel fwyaf o adfyd.

Amddiffyn Plant
Plant sy’n profi niwed sylweddol sy’n gofyn am ymyrraeth statudol megis amddiffyn plant neu ymyrraeth gyfreithiol. Efallai y bydd angen i’r plant hyn hefyd gael eu lletya (eu rhoi mewn gofal) gan y Gwasanaethau Plant statudol naill ai’n wirfoddol neu drwy Orchymyn Llys.

Diffiniad
Adran 47 o Ddeddf Plant 1989. Plentyn neu berson ifanc. Pan fo plentyn mewn perygl o niwed sylweddol. Trwy esgeulustod, cam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol


Y BROSES ASESU

Dylai asiantaethau wneud atgyfeiriad llafar i’r Tîm Dyletswydd Canolog ynghyd â chyflwyno ffurflen atgyfeirio ysgrifenedig:
www.cysur.cymru/cysylltiadau-a-dolenni-defnyddiol/rhoi-gwybod-am-bryderon-plant

Y Gwasanaethau Plant Statudol
Bydd y Gwasanaethau Plant Statudol yn penderfynu ar eu hymateb yn seiliedig ar y wybodaeth lafar a ailadroddir yn y ffurflen atgyfeirio ysgrifenedig. Yn achos achosion lle amheuir bod plant yn cael eu cam-drin, byddant yn dilyn y gweithdrefnau Gweithio gyda’ch Gilydd fel y’u nodir yng Ngweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. Ar sail Asesiad Plant a Theuluoedd bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch cynnal cynhadledd ai peidio.


ASIANTAETHAU ALLWEDDOL

Asiantaethau allweddol a all ddarparu Cymorth ar y lefel hon:

A wnaethoch chi ddod o hyd i’r wybodaeth yr oeddech yn chwilio amdani heddiw?

Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Os hoffech wneud sylwadau am ba mor ddefnyddiol yw’r dudalen hon, diwygio/darparu gwybodaeth neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau eraill ynghylch sut y gallwn wella’r dudalen hon, cysylltwch â gwybplant@sirgar.gov.uk  neu danfonwch adborth cyflym trwy Dweud eich dweud.

Diolch

Hapus iawn gyda pha mor gyflym yr anfonwyd y manylion allan.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button