Datblygu’r Gymraeg
Pecyn Gweithgareddau Awyr Agored, cefnogi datblygiad y Gymraeg yn eich lleoliad.
Mae PACEY Cymru yn darparu ystod o adnoddau datblygu iaith Cymraeg ac maent newydd gyhoeddi eu Pecyn Gweithgareddau Awyr Agored. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys wyth gweithgaredd awyr agored llawn hwyl a rhyngweithiol, gyda pob gweithgaredd yn darparu geirfa Gymraeg i gefnogi darparwyr gofal plant i ymestyn datblygiad plant yn y Gymraeg. Mae’r pecyn yn cynnwys cysylltiadau i’r Cyfnod Sylfaen ac yn darparu gwybodaeth ar sut mae’r gweithgareddau’n cefnogi datblygiad y Gymraeg a hefyd yn cynnig syniadau ar sut i ymestyn y dysgu. Hefyd gwelwch yr atodiad sydd yn cynnwys restr o wasanaethau cefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg PACEY Cymru.
Lawrlwythwych y Pecyn Cymraeg
Am ragor o wybodaeth neu adnoddau i gefnogi eich datblygiad Cymraeg, ewch i’n Spotlight ar Ddatblygu’r Gymraeg lle cewch hyd i adnoddau pellach gan gynnwys fideos i’ch helpu chi gydag ynganu geirfa ar thema i’w defnyddio gyda’r plant yn eich gofal.
Dyma’r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd. Ac mae’r cwbl lot am ddim!
https://businesswales.gov.wales/heloblod/helo-blod