prev
next
play
pause

Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP)

Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP)

Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP)

Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP)

‘Bwyd a Hwyl’ SHEP

‘Cydweithio i helpu ysgolion i fwydo plant, hybu byw’n iach a darparu profiadau dysgu cymdeithasol yn ystod gwyliau ysgol’

Rhaglen ar gyfer ysgolion yw ‘Bwyd a Hwyl’ SHEP sy’n darparu prydau iach, addysg am fwyd a maeth, gweithgareddau corfforol a sesiynau cyfoethogi i blant mewn ardaloedd o amddifadedd yn ystod gwyliau’r haf.

Gan nad yw brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd a phrydau ysgol am ddim ar gael yn ystod gwyliau’r haf, mae rhai teuluoedd yn cael trafferth fforddio neu gael gafael ar fwyd sy’n darparu deiet iach. Hefyd bydd rhai plant yn cael eu hynysu’n gymdeithasol ac yn colli’r symbyliad deallusol sydd ar gael yn yr ysgol neu drwy weithgareddau teuluol.

Prif fanteision SHEP

  1. Gwneud plant yn fwy actif
  2. Gwella deiet plant
  3. Gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl
  4. Dysgu ac ymgysylltu â’r ysgol
  5. Helpu rhieni i dalu costau gwyliau’r ysgol
  6. Gwella iechyd a llesiant rhieni
  7. Rhieni’n dysgu sgiliau newydd
  8. Cynnwys y teulu cyfan
  9. Helpu asiantaethau i gydweithio
  10. Cynnwys plant mewn penderfyniadau
  11. Defnyddio cyfleusterau presennol yn well
  12. Annog ymgysylltu â chymunedau
  13. Cynnig gwaith cyflogedig a gwirfoddol
  14. Tynnu sylw at wasanaethau eraill

Sut mae cael rhagor o wybodaeth?

Bydd gan bob awdurdod lleol grŵp llywio a Chydlynydd SHEP. Cysylltwch â Christina Powdrill, Cydlynydd Cenedlaethol SHEP yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gael rhagor o fanylion drwy ffonio 029 2046 8678 neu anfon e-bost at christina.powdrill@wlga.gov.uk

Doeddwn i ond eisiau anfon nodyn o ddiolch ichi am eich holl waith ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gweithio ar gasglu ychydig o wybodaeth ar gyfer menter leol i addysgu plant a phobl ifanc ynghylch canlyniadau cyffuriau ac alcohol. Rwy’n gweithio ar baratoi pamffled ac rwyf wedi dysgu llawer o’ch tudalen. Sylwais fod gennych rai adnoddau gwych iawn. Da Iawn!
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button