Grantiau
Cynllun Grantiau Bach Cynnig Gofal Plant – Cyllid Cyfalaf Ychwanegol
Ydych chi’n Ddarparwr Gofal Plant Cofrestredig yn Sir Gaerfyrddin sy’n cynnig y Cynnig Gofal Plant i blant 3 a 4 oed? Os felly, gallech fod yn gymwys i wneud cais am hyd at £10,000 o Gyllid Cyfalaf Ychwanegol.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y canlynol:
1. Grant Diogel o ran COVID:
Diben y grant hwn yw galluogi lleoliadau sy’n darparu’r cynnig gofal plant i brynu eitemau cyfalaf ychwanegol a/neu i wneud addasiadau ffisegol i safleoedd, i’w galluogi i weithredu mewn modd sy’n ddiogel o ran Covid.
2. Grant Digidol y Cynnig Gofal Plant:
Diben y grant hwn yw galluogi lleoliad i brynu offer TG i fodloni gofynion Platfform Digidol y Cynnig Gofal Plant.
Gall lleoliadau wneud cais am un neu’r ddau grant a dim ond un ffurflen gais sydd ei hangen. Mae rhagor o wybodaeth am eitemau cymwys, trothwyon ariannu a sut i wneud cais ar gael yn y Canllawiau ac Amodau Cyllid Cyfalaf Ychwanegol.
Sylwer, mae lleoliadau’n gymwys i wneud cais os ydynt eisoes wedi derbyn cyllid drwy’r cynllun grantiau bach eleni. Fodd bynnag, oherwydd cyllid cyfyngedig, bydd ceisiadau gan leoliadau nad ydynt wedi derbyn cyllid drwy’r Cynllun Grantiau Bach o’r blaen yn cael eu blaenoriaethu. Felly, rydym yn annog ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau’n brydlon.
Y dyddiad cau TERFYNOL ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Gwener 10fed Rhagfyr.
Ffurflenni’r Grant a’r Canllawiau:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd drwy ffonio 01267 246555 neu anfonwch e-bost at smallgrantscheme@carmarthenshire.gov.uk
Grantiau ‘goroesi’ a ‘ffynnu’ COVID-19 ar agor nawr
Gall mudiadau gwirfoddol wneud cais nawr am gyllid pandemig trwy gam newydd o Gronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru.
Mae Cronfa Gwydnwch y trydydd sector (TSRF) wedi rhoi cymorth unigryw i 235 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru ers Ebrill 2020. Ond, mae elusennau a grwpiau gwirfoddol eraill yn wynebu heriau cyfredol a newydd wrth iddynt fynd i’r afael ag effeithiau parhaus COVID-19.
Ar agor nawr i geisiadau, mae cam 3 y TSRF yn cynnig cyllid grant i helpu mudiadau gwirfoddol gyda’r costau i ddod drwy bandemig COVID-19. Gellir defnyddio’r grantiau hefyd i fuddsoddi mewn gweithgareddau newydd neu ychwanegol a fydd yn cynhyrchu elw y tu hwnt i’r cyfnod cyllido.
Ynglyn a’r gronfa
Mae Cam 3 y TSRF yn rhan o’r £2.4 miliwn o gymorth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae grantiau o hyd at £50,000 ar gael drwy ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru. Os bydd y gweithgaredd yn gofyn am fwy na hynny o gyllid, mae cyfle i wneud cais am fenthyciad gan Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru os bydd angen.
Er mwyn galluogi adferiad teg a chyfiawn yng Nghymru, mae cam newydd y TSRF yn rhoi blaenoriaeth i fudiadau sy’n cynorthwyo pobl â nodweddion gwarchodedig, a’r rheini nad ydynt wedi derbyn cyllid TSRF o’r blaen.
Mae ceisiadau ar agor i unrhyw fudiad gwirfoddol cymwys yng Nghymru, ac mae cymorth ar gael i helpu mudiadau i wneud yn siŵr eu bod yn gymwys ar gyfer y gronfa.
Goroesi a ffynu
Mae’r gronfa wedi’i rhannu’n ddau gategori:
Goroesi
Gan gydnabod nad oedd effaith COVID-19 wedi effeithio ar fudiad neu wedi dod i’r amlwg tan yn ddiweddarach, mae’r categori hwn wedi’i gynllunio i drechu unrhyw ostyngiad digyffelyb yn eich incwm codi arian a derbyn rhoddion.
Nid diben y gronfa yw adennill incwm a gollwyd – ei diben yw darparu digon o gyllid i dalu gwariant hanfodol na ellir talu amdano gan unrhyw incwm sydd ar ôl nac ymyriadau cynorthwyol eraill. ‘Y cyllid dewis olaf’.
Ffynnu
Bydd cyllid hefyd yn cael ei ddyrannu i fudiadau sy’n edrych tuag at eu dyfodol, er enghraifft, i newid eu ffrydiau incwm neu i fuddsoddi yn y mudiad er mwyn caniatáu iddo dyfu ac ehangu.
Bydd y gofynion yn debyg iawn i’r categori ‘goroesi’, ond bydd hefyd yn gofyn am gynllun a rhagolwg llif arian i gefnogi’r gweithgaredd newydd.
Rhagor o wybodaeth a gwneud
I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa, eich cymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i wcva.cymru/tsrf.