Yr Iaith Gymraeg
Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc.
Cymraeg i Blant For Kids
Mae eich plentyn yn tyfu lan mewn byd lle mae’r rhan fwyaf o blant yn siarad o leiaf ddwy iaith – sicrhewch fod eich plentyn chi’n gallu gwneud hynny hefyd.
Mae prosiect Cymraeg i Blant yn cynnig ystod eang o weithgareddau hwyliog am ddim i’ch helpu chi a’ch plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg:
- tylino babanod ac ioga babanod
- sesiynau meithrin hyder yn y Gymraeg
- sesiynau stori a chân
- a llawer mwy. . .
Cyswllt:
Lynwen Thomas (Caerfyrddin, Cydweli a Llandeilo) 07534158765 / lynwen.thomas@meithrin.cymru
Llinos.Haf (Aman a Llanelli) llinos.haf@meithrin.cymru
Ffurflen Gofrestru Registration Form Fi a fy Mabi – Me and my Baby Ionawr / January 2021
Ffurflen Gofrestru Registration Form Stori a Chân Welsh Story & Rhyme Ionawr/January 2021
Ffurflen Gofrestru Registration Form Sesiynau Tylino Babi Baby Massage Sessions
Ffurflen Gofrestru Registration Form Cuppa & Chat Cymraeg January 2021
The Welsh Culture Pack video in Welsh: https://youtu.be/mdzbrZMYnEg
I ddathlu Diwrnod Chwarae yng Nghymru, hoffem ni fel PACEY Cymru rannu gyda chi ein Pecyn Gwybodaeth Diwylliant Cymreig sydd newydd ei gyhoeddi. Gall yr adnodd hwn helpu lleoliadau cefnogi plant o ran eu dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru sy’n bwysig mewn perthynas â lles a datblygiad plant sy’n byw yng Nghymru. Mae Pecyn gwybodaeth diwylliant Cymru yn adnodd i helpu lleoliadau i ymestyn cyfleoedd i dyfu gwybodaeth a dealltwriaeth plant o’u hamgylchedd, i’w helpu i archwilio eu hunaniaeth a gadael i’r plant ennill ymdeimlad o berthyn i’r wlad y maent yn byw ynddi.
I lawrlwytho Pecyn gwybodaeth diwylliant Cymru ewch i’n ‘Spotlight’ ar Datblygu’r Gymraeg https://www.pacey.org.uk/welsh-language-development/
Siarter Iaith
Wyt ti wedi gweld wynebau direidus y ddau yma yn ddiweddar?