prev
next
play
pause

A oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Ofalwr Maeth?

Gallwch ofyn am becyn gwybodaeth rhad ac am ddim neu gallwch gael sgwrs anffurfiol drwy gysylltu â’r canlynol:

Seibiannau byr yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anableddau
A allech gynnig gofal dros nos yn rheolaidd yn eich cartref eich hun i blentyn neu berson ifanc ag anableddau?

Rydym yn chwilio am bobl a allai ddarparu gofal am o leiaf 4 noson y mis.

  • Helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd
  • Helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu profiadau newydd o ran cymdeithasu, chwarae a hamdden
  • Rhoi seibiant i rieni/gofalwyr er mwyn iddynt gael eu gwynt atynt

Os ydych yn credu y gallech wneud gwahaniaeth ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch:
0800 0933699
neu anfonwch neges e-bost at ShortBreaksServices@sirgar.gov.uk

Datganiad am Seibiannau Byr ar gyfer Plant Anabl a’u Teuluoedd yn Sir Gaerfyrddin


Mae Maethu Sir Gar yn recriwtio!

Byddem wrth ein bodd ichi ymuno â ni i gael gwybodaeth fyw yn sesiwn ar-lein i ddarganfod mwy am faethu awdurdodau lleol

Dydd Mercher 24ain Mawrth

@12:30yp – 13:30yp

@18:00yp – 19:00yp

I archebu’ch lle

Ebostiwch: PALevans@sirgar.gov.uk

Galwch: 0800 0933 699

thumbnail of PDN0312-FosteringAds copy

 

 



Mabwysiadu (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Yn Siroedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Phowys rydym yn chwilio am bob math o ddarpar rieni a allai gynnig cartref parhaol i blant o bob oed. Efallai y bydd ar rai angen aros gyda’u brodyr a’u chwiorydd, ac efallai bydd gan eraill anabledd. Mae’n bwysig i rai plant eu bod yn parhau i gael cysylltiad wyneb yn wyneb â’u teuluoedd geni.

A ydych yn meddwl y gallech ofalu am unrhyw un o’r plant hyn – efallai y bydd eu profiadau blaenorol wedi cael effaith ar rai ohonynt?

I gael gwybod rhagor am y broses fabwysiadu neu i gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu.

Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru: www.mabwysiaducgcymru.org.uk

Sut mae cysylltu â ni

Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro neu Geredigion:

Mabwysiadu – Canolbarth a Gorllewin Cymru,
Adeilad 1, Parc Dewi Sant,
Heol Ffynnon Job,
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
SA31 3HB
e-bost: ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk
Ffôn: 01267 246970
Os ydych yn byw ym Mhowys:
Y Tîm Mabwysiadu,
Neuadd Brycheiniog,
Ffordd Cambrian,
Aberhonddu,
Powys,
LD3 7HR
e-bost: adoption@powys.gov.uk
Ffôn: 01874 614030

Dewch yn Ddarparwr Llety Chefnogaeth

Hapus iawn gyda pha mor gyflym yr anfonwyd y manylion allan.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button