prev
next
play
pause

A ydych chi'n gofalu am blentyn rhywun arall?

A ydych chi’n gofalu am blentyn rhywun arall?

  • A oes rhywun yn gofalu amdanoch heblaw eich rhieni?
  • A oes rhywun arall yn gofalu am eich plentyn?
  • A ydych chi’n gofalu am blentyn rhywun arall?

Mae Maethu Preifat yn wahanol iawn i’r gofal a ddarperir gennym drwy ofalwyr maeth cymeradwy. Mae’n digwydd pan fo plentyn o dan 16 oed (neu o dan 18 os yw’r plentyn yn anabl) yn derbyn gofal am fwy na 28 diwrnod gan oedolyn nad yw’n berthynas agos, drwy drefniant preifat rhwng y rhiant a’r gofalwr.

Ystyr perthynas agos yw modryb, ewythr, llys-riant, mam-gu, tad-cu, brawd, chwaer, ond nid cefnder, hen fodryb, hen ewythr, na ffrind i’r teulu.

Os ydych chi’n ystyried gosod eich plentyn gyda rhywun nad yw’n berthynas agos ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os ydych eisoes yn rhan o drefniant o’r fath yna cysylltwch â: Gwasanaethau Plant Sir Gaerfyrddin ar 01554 742322

 

Private Fostering Poster

Hapus iawn gyda pha mor gyflym yr anfonwyd y manylion allan.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button