Gwasanaethau Anableddau Statudol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin cysylltwch â 01554 742322
Cynnig Lleol
Mae Cynnig Lleol Sir Gaerfyrddin yn darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anableddau, ac i’w teuluodd, a hynny mewn un man. Mae’n dangos i deuluoedd yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan amrywiaeth o asiantaethau lleol, er enghraifft addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r Cynnig Lleol yn darparu gwybodaeth mewn un man am iechyd, addysg a gofal cymdeithasol ar gyfer:
- Plant a phobl ifance rhwng oedran geni a 25 oed sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu Anabledd
- Rhieni a gofalwyr plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio ym maes iechyd, gofal ac addysg
- Darparwyr gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc
Mae Tim Camau Bach yn Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar a gomisiynwyd gan Teuluoedd yn Gyntaf. Rydym yn cynnig cymorth tymor byr i rieni sydd â phlentyn anabl 0-16 oed ynghylch materion fel cyfathrebu, cwsg, ymataliaeth, ymddygiad, deiet, chwarae, datblygiad plant a chymorth i frodyr a chwiorydd. Cliciwchttps://fis.carmarthenshire.gov.wales/tim-camau-bach/?lang=cyh yma am fwy
Ymddiriedolaeth Gofalwyr
Clybiau Plant a Phobl Ifanc
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jo Silverthorne: joanne@carmarthenshirecarers.org.uk neu ffoniwch 01554 754957.
Prosiect Cwmpawd Mencap Cymru
Mae Cwmpawd Mencap Cymru yn rhan o Cysylltu Sir Gâr. Gall ein tîm o arbenigwyr roi’r wybodaeth gywir i bobl ag anableddau dysgu 18+ oed a’ch helpu i lywio a chysylltu â’r gwasanaeth lleol cywir i’ch cefnogi.
https://wales.mencap.org.uk/cy/prosiect-cwmpawd-mencap-cymru