Tîm Camau Bach – 01267 246673
Cefnogi teuluoedd sydd â phlentyn anabl rhwng 0 a 16 oed. Gellir darparu cymorth heb ddiagnosis os oes pryderon. Mae’r cymorth yn cynnwys:
Cymorth yn y Cartref:
- Cymorth arbenigol er mwyn annog cyfathrebu, bondio, ymlyniad a rhyngweithio rhwng rhieni a phob plentyn anabl 0-16 oed.
- Cymorth un i un i rieni yn y cartref e.e. cwsg, ymataliaeth, ymddygiad, deiet, chwarae, datblygiad plentyn a chymorth â brodyr/chwiorydd.
- Pecyn rhianta pwrpasol i deuluoedd sy’n rhoi sylw i anghenion synhwyraidd, cydnerthedd a thechnegau rheoli ymddygiad ymarferol.
LLEOLIADAU CYN-YSGOL
- Gweithio gyda lleoliadau cyn ysgol i wella eu gallu i ddiwallu anghenion pob plentyn anabl drwy hyfforddiant, cyngor ac arweiniad i bob aelod o staff.
Dysgu rhianta i grwpiau (0-16 oed)
- Chwarae synhwyraidd, Therapi Lego, Cymorth Emosiynol, Therapi Cerdd, Awtistiaeth a Rhywioldeb, Clinigau ymataliaeth a chwsg, clybiau ar ôl ysgol gyda rhieni yn seiliedig ar angen,
- Grwpiau Rhieni a Boreau Coffi,
- Grwpiau gweithgareddau ar y penwythnos
Grwpiau ar gyfer pobl ifanc (10-16 oed)
- Cymorth i bobl ifanc (10-16 oed) awtistiaeth gweithredu lefel uchel, syndrom Asperger, Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio (ADHD), anawsterau cyfathrebu / cymdeithasol.
- Cymorth un i un i bobl ifanc 10–16 oed yn seiliedig ar angen.