Gwasanaethau Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar

Mae darpar rieni, rhieni, cynhalwyr a theuluoedd yn cael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, o’r adeg pan fydd plentyn yn 7 oed a thu hwnt. Dyma eich taith o feichiogrwydd trwy flynyddoedd cynnar bywyd eich plentyn.

Ar unrhyw adeg yn ystod eich taith trwy fod yn rhiant, hyd yn oed mor gynnar ag y byddwch yn darganfod eich bod yn feichiog, mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig pwynt gwybodaeth un stop i chi. Yma fe welwch wybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau y gallech fod eisiau neu fod angen eu cyrchu.

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Ebost: gwybplant@sirgar.gov.uk

Ffôn: 01267 246555

Gwefan: fiscarmarthenshire.gov.uk

Facebook: Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gâr – Carmarthenshire Family Information Service

Os ydych yn ceisio beichiogi neu eisoes yn feichiog, mae cyfoeth o wybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i chi. Yn ystod eich beichiogrwydd ac am gyfnod byr ar ôl yr enedigaeth byddwch yn dod i gysylltiad rheolaidd â'ch bydwraig. Efallai mai dyma’r amser hefyd i ddechrau ystyried eich opsiynau gofal plant os ydych yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith

Yn fuan ar ôl genedigaeth eich babi byddwch yn cael eich trosglwyddo o ofal eich Bydwraig i'r Ymwelydd Iechyd. Byddwch mewn cysylltiad â'ch Ymwelydd Iechyd hyd nes y bydd eich plentyn yn cyrraedd oedran ysgol.

Pan fydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol bydd wedyn yn cael mynediad at y gwasanaeth Nyrsio Ysgol drwy gydol ei daith drwy addysg

Unwaith y bydd eich plentyn yn yr ysgol mae gwasanaethau ar gael a allai fod o gymorth i chi

Mae dod yn rhiant a chamu mewn i rhianta yn amser all for yn heriol, er hyn mae yna amryw o wasanaethau ar gael bydd o gymorth i chi a fydd yn tywys chi trwy rhai o'r heriau.

O'r cenhedlu trwy flynyddoedd cynnar bywyd eich plentyn a thu hwnt bydd gennych fynediad parhaus i ofal iechyd ar gyfer eich anghenion chi ac anghenion eich plentyn

Doeddwn i ond eisiau anfon nodyn o ddiolch ichi am eich holl waith ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gweithio ar gasglu ychydig o wybodaeth ar gyfer menter leol i addysgu plant a phobl ifanc ynghylch canlyniadau cyffuriau ac alcohol. Rwy’n gweithio ar baratoi pamffled ac rwyf wedi dysgu llawer o’ch tudalen. Sylwais fod gennych rai adnoddau gwych iawn. Da Iawn!
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button