prev
next
play
pause

Iechyd a Lles

Iechyd a Lles

Iechyd a Lles

Iechyd a Lles

Mae Bywyd Actif yn gwrs pedair sesiwn gyda’r nod o geisio addysgu pobl am straen a’r dioddefaint a achosir gan faterion emosiynol, megis pryder neu boen cronig. I ddechrau ar y cwrs ewch i icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/bywyd-actif/.

Mae SilverCloud yn gwrs ar-lein sy’n cynnig cymorth ar gyfer gorbryder, iselder, a llawer mwy, ac mae’r cyfan yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT). Gallwch gofrestru yn nhswales.silvercloudhealth.com/signup/.

Mae CALL sef Llinell Gymorth Iechyd Meddwl yn darparu llinell gymorth sy’n gwrando ac yn rhoi cymorth emosiynol iechyd meddwl cyfrinachol ac mae ar agor 24/7. Gall CALL hefyd eich cyfeirio at gymorth mewn cymunedau lleol ac amrywiaeth o wybodaeth ar-lein. Ffoniwch 0800132737, anfonwch neges destun “help” i 81066 neu ewch i callhelpline.org.uk/.

Mae ‘Mind Active Monitoring’ yn darparu chwe wythnos o hunangymorth ar gyfer gorbryder, iselder, hunan-barch, a mwy. I ddechrau arni, siaradwch â’ch meddyg teulu, neu unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol arall, neu gallwch gofrestru yn uniongyrchol yn: https://www.mind.org.uk/get-involved/active-monitoring-sign-up/active-monitoring-form/.

Mae’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Ifanc yn cysylltu pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, â gwefannau, apiau, llinellau cymorth, a rhagor i feithrin gwytnwch. Gallwch gael mynediad i’r pecyn yn bit.ly/ypmhten.


How can early years workers help manage the transition back to nursery, return to nursery help | Early Years In Mind | Anna Freud Centre

Coronavirus Support for Early Years | Coronavirus support for Nursery | Anna Freud Centre

Diolch yn fawr iawn am yr holl wybodaeth, mae wir wedi bod o gymorth felly diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button