prev
next
play
pause

Cymorth Busnes

Cymorth Busnes

Cymorth Busnes

Datblygu’r Gymraeg

Pecyn Gweithgareddau Awyr Agored, cefnogi datblygiad y Gymraeg yn eich lleoliad.

Mae PACEY Cymru yn darparu ystod o adnoddau datblygu iaith Cymraeg ac maent newydd gyhoeddi eu Pecyn Gweithgareddau Awyr Agored. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys wyth gweithgaredd awyr agored llawn hwyl a rhyngweithiol, gyda pob gweithgaredd yn darparu geirfa Gymraeg i gefnogi darparwyr gofal plant i ymestyn datblygiad plant yn y Gymraeg.  Mae’r pecyn yn cynnwys cysylltiadau i’r Cyfnod  Sylfaen ac yn darparu gwybodaeth ar sut mae’r gweithgareddau’n cefnogi datblygiad y Gymraeg a hefyd yn cynnig syniadau ar sut i ymestyn y dysgu. Hefyd gwelwch yr atodiad sydd yn cynnwys restr o wasanaethau cefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg PACEY Cymru.

Lawrlwythwych y Pecyn Cymraeg

Am ragor o wybodaeth neu adnoddau i gefnogi eich datblygiad Cymraeg, ewch i’n Spotlight ar Ddatblygu’r Gymraeg lle cewch hyd i adnoddau pellach gan gynnwys fideos i’ch helpu chi gydag ynganu geirfa ar thema i’w defnyddio gyda’r plant yn eich gofal.

 


Dyma’r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd. Ac mae’r cwbl lot am ddim!

https://businesswales.gov.wales/heloblod/helo-blod


Doeddwn i ond eisiau anfon nodyn o ddiolch ichi am eich holl waith ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gweithio ar gasglu ychydig o wybodaeth ar gyfer menter leol i addysgu plant a phobl ifanc ynghylch canlyniadau cyffuriau ac alcohol. Rwy’n gweithio ar baratoi pamffled ac rwyf wedi dysgu llawer o’ch tudalen. Sylwais fod gennych rai adnoddau gwych iawn. Da Iawn!
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button