Am Cofrestru fel Gwarchodwr Plant?
Gwarchodwyr plant – yn gofalu am hyd at 10 o blant rhwng 0 a 12 oed yn eu cartrefi eu hunain. Rhaid iddynt gael eu cofrestru, eu harchwilio a’u rheoleiddio gan AGC (dolen i AGC). Maent yn gweithio yn y gymuned, felly gall plant fynd i gylchoedd chwarae/meithrin a grwpiau rhieni a phlant bach.
Rydym yn darparu hyfforddiant a chymorth i chi yn ystod y broses gofrestru a thrwy gydol eich gyrfa gwarchod plant. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch a Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 01267 246555.
I ddod yn warchodwr plant, rhaid i chi:
⮚ Gwblhau Sesiwn Friffio:
E-bostiwch PACEY Cymru: paceycymru@pacey.org.uk
Os na allwch ddod i’r sesiwn friffio rhad ac am ddim nesaf, gallwch gwblhau Sesiwn Briffio Ar-lein trwy PACEY mae’r rhain am ddim ar hyn o bryd:
Becoming a childminder in Wales 2 – PACEY
Home-based childcare training in Wales/Hyfforddiant gofal plant yn y cartref yng Nghymru – PACEY
⮚ Cwblhau Cwrs Cyn Cofrestru:
Cwblhau unedau 326 Cyflwyno i ofal plant yn y cartref (IHC a 327 Paratoi ar gyfer Arfer Gofal Plant (PCP).
Mae’r rhain yn werth 10 credyd tuag at Ddiploma Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygu Plant Lefel 3.
Bydd cymorth ariannol yn cael ei gynnig i’r rhai sy’n ystyried dod yn warchodwr plant. Bydd angen i unrhyw un sydd â diddordeb fodloni’r meini prawf a chadw at Delerau ac Amodau’r cyllid sydd ar gael. Anfonwch e-bost at Gwybplant@sirgar.gov.uk am ragor o wybodaeth.