Hyfforddiant
Cyrsiau Hyfforddiant
Mae’r Tîm Gwybodaeth i Deuluoedd, Gofal Plant a Chwarae yn cynllunio a chydlynu cyrsiau hyfforddi sy’n ofynnol gan Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) ac maen nhw’n agored i’r holl ddarparwyr gofal plant a chwarae yn Sir Gaerfyrddin.
Caiff y cyrsiau hyn eu cyllido’n sylweddol gan yr Awdurdod Lleol a chaniateir dau aelod o staff yn unig o bob lleoliad i fynychu’r cwrs.
Archebu Cwrs
I archebu cwrs ewch i www.dewis.cymru a fydd yn eich galluogi i weld a mynegi diddordeb yn ein holl gyrsiau hyfforddi.
I gysylltu gyda Tȋm Gwasanaeth Gwybodaeth, Gofal Plant a Chwarae 01267 246555
(Dydd Llun – Dydd Gwener 9yb – 5yh) neu ebostiwch gwybplant@sirgar.gov.uk
Canslo cwrs
Rhaid i gyfranogwyr sy’n dymuno canslo archeb wneud hynny 48 awr cyn dyddiad y cwrs trwy e-bost at: Gwybplant@sirgar.gov.uk fodd bynnag, os ydych chi’n teimlo’n sâl ar ddiwrnod y cwrs a bod gennych symptomau COVID-19 peidiwch â mynychu.
MWYAF PWYSIG – Os ydych chi, neu unrhyw un rydych chi wedi bod mewn cysylltiad â nhw, yn teimlo’n sâl neu os oes gennych chi unrhyw symptomau COVID-19 cyn pen 5 diwrnod ar ôl mynychu sesiwn hyfforddi, cysylltwch â ni ar unwaith er mwyn i ni allu cymryd mesurau priodol.
Bydd cyfranogwyr sy’n methu â mynychu a chwblhau cyrsiau GORFODOL yn cael dirwy o £50 ac ni fyddant yn cael archebu lle ar gyrsiau yn y dyfodol nes bod y ffi hon wedi’i thalu. Mae’r newidiadau hyn wedi bod yn angenrheidiol oherwydd nifer uchel o gyrsiau heb eu llenwi a lleoedd wedi’u gwastraffu. Rydym yn awyddus i sicrhau bod cymaint o staff â phosibl yn gallu cael mynediad at yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt cyn i Dystysgrifau ddod i ben. Mae hyn yn dod yn fwyfwy heriol gyda gostyngiadau yn y gyllideb.
Cyhoeddir anfonebau unwaith y bydd y cwrs wedi’i gwblhau.
*Sylwer, oherwydd costau cynyddol ar gyfer hyfforddiant, nad ydym bellach yn darparu cyfleusterau bwffe, a fyddech cystal â sicrhau eich bod yn dod â’ch bwyd a’ch diod eich hun; Mae’n ddrwg gennyf os yw hyn yn achosi unrhyw anghyfleustra.
Awtistiaeth Cymru
Nod yr adnoddau yw cynyddu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth am awtistiaeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Rwy’n gweithio mewn lleoliad blynyddoedd cynnar – Awtistiaeth Cymru | Autism Wales | National Autism Team