Cynnig Gofal Plant – Sesiwn Gywbodaeth Rhithwir Cynllun Grantiau Bach

Cynnig Gofal Plant – Sesiwn Gywbodaeth Rhithwir Cynllun Grantiau Bach

Cyfle Grant

Ydych chi’n Ddarparwr Gofal Plant Cofrestredig yn Sir Gaerfyrddin sy’n cynnig y Cynnig Gofal Plant i blant 3 a 4 oed?

Os felly, gallwch wneud cais am y Cynllun Grant Bach Cynnig Gofal Plant. Dyfarnwyd y grant i Gyngor Sir Caerfyrddin trwy Grant Cyfalaf Llywodraeth Cymru, gyda grantiau hyd at £ 10,000 ar gael ar gyfer lleoliadau Gofal Plant gan gynnwys; gwarchodwyr plant, clybiau ar ôl ysgol, cylchoedd chwarae a meithrinfeydd dydd.

Bydd y grant yn helpu lleoliadau Gofal Plant Cofrestredig i ddatblygu nifer y lleoedd gofal plant y gallant eu cynnig a helpu i wella ansawdd eu cyfleusterau o dan y Cynnig Gofal Plant.

Rwy’n falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal digwyddiad gwybodaeth rithwir ddydd Iau 23 Medi am 6pm. Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y Cynllun Grantiau Bach, sut i wneud cais a beth allwch chi wneud cais amdano, yna dyma’r digwyddiad i chi! Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r digwyddiad hwn, cadarnhewch eich presenoldeb erbyn dydd Mawrth 21 Medi trwy e-bostio:

smallgrantscheme@carmarthenshire.gov.uk

Y dyddiad cau TERFYNOL ar gyfer cyflwyno yw dydd Gwener 8 Hydref 2021. Mae’r ffurflenni Grant a’r Canllawiau ar gael ar fis.carmarthenshire.gov.wales ond os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01267 246555 neu e-bostiwch:

smallgrantscheme@carmarthenshire.gov.uk

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *