Tîm Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar yn ardal Cwm Gwendraeth
Beth sydd ymlaen
Mae tîm Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar Cwm Gwendraeth yn wasanaeth sy’n darparu amrywiaeth o gymorth a chefnogaeth blynyddoedd cynnar
- Cymorth i deuluoedd a chefnogaeth i rhieni ar gyfer
materion fel hyfforddiant poti, ymddygiad, diddyfnu,
bwyta ffyslyd - Gwybodaeth am grwpiau lleol eraill
- Grwpiau ar gyfer teuluoedd a phlant fel Tylino Babi, Iaith a chwarae,
- Cefnogaeth iaith a lleferydd
- Syniadau i’w gwneud gartref gyda’r teulu
- Darpariaeth ddwyieithog
Tylino Babi
Mae’r cwrs tylino babanod yn cael ei redeg gan ein Swyddfa Cymorth i Deuluoedd ac yn gyfle perffaith i dreulio amser gwirioneddol arbennig gyda’ch babi ac mae tylino babanod gyda llawer o fuddion sy’n cynnwys:
• helpu patrwm cysgu babanod
• lleddfu colig, rhwymedd a gwynt
• cynorthwyo cylchrediad babanod a’u helpu i ymlacio
• hyrwyddo bondio ac ymlyniad
Am fwy o wybodaeth / archebu ymlaen i’r cwrs nesaf cysylltwch â’ch Ymwelydd Iechyd (Ardal Cwm Gwendraeth yn unig)
Noder – mae’r cwrs hon ond ar gael i deuluoedd o dan Ymwelwyr Iechyd Cwm Gwendraeth)
Cymerwch gip ar Sarah ein Swyddog Cymorth i Deuluoedd yn siarad trwy ein cwrs tylino babanod