Y Cynnig Gofal Plant i Gymru – Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol Newydd

Cynnig Gofal Plant

Disgwylir i wasanaeth digidol cenedlaethol newydd Cynnig Gofal Plant Cymru gael ei lansio yn yr hydref!

Bydd y gwasanaeth newydd yn ei gwneud yn symlach o lawer i ddarparwyr gofal plant hawlio taliadau. Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ‘wrth fynd’ trwy ffôn symudol neu ddyfais lechen.

Cadwch lygad fan hyn am ragor o fanylion.

Haf 2022, mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio i’r Cynnig Gofal Plant yng Nghymru weithredu’n ddigidol!
Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac yn cael ei roi ar brawf gan awdurdodau lleol, darparwyr gofal plant a rhieni.

Beth yw goblygiadau hyn i ddarparwyr gofal plant?

Os ydych chi’n ddarparwr gofal plant sy’n cynnig oriau o dan y Cynnig ar hyn o bryd, neu os ydych yn dymuno cychwyn gwneud hynny o Gwanwyn 2023, bydd angen i chi gofrestru ar-lein gyda gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd Cynnig Gofal Plant Cymru o fis Medi 2022. Bydd canllawiau pellach yn cael eu rhannu yn gynnar yn yr hydref.

Bydd rhieni yn gwneud cais am y Cynnig ar-lein drwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol canol Tymor yr Hydref 2022 yn barod i’w plentyn ddechrau manteisio arno yn Ionawr 2023.

Mae adnodd Cwestiynau Cyffredin i ddarparwyr ar gael i’ch helpu.

Mae’r adnodd i’w weld ar https://llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymrugwasanaeth-cenedlaethol-digidol a bydd yn cael ei ddiweddaru fel bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei dderbyn.

Bydd manteision y Gwasanaeth newydd yn cynnwys:

un gwasanaeth cenedlaethol syml y bydd holl awdurdodau lleol Cymru yn ei ddefnyddio, gan sicrhau bod rhieni a darparwyr gofal plant yn cael profiad cyson
bydd ar gael drwy ffonau symudol, gliniaduron a llechi
bydd yn gwbl ddwyieithog
bydd data yn ddiogel
bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud taliadau yn gyflym ac yn rheolaidd yn uniongyrchol i ddarparwyr gofal plant
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant i Gymru ewch i:
Y Cynnig Gofal Plant i Gymru: Help gyda Chost Gofal Plant i Rieni
Gofal i blant 3 a 4 oed: canllawiau ar gyfer darparwyr | LLYW.CYMRU

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael gwybod sut i gofrestru i ddarparu’r
Cynnig Gofal Plant:
Dod o hyd i’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Lleol

Defnyddio’r gwasanaeth newydd:
Bydd canllawiau mwy penodol ar sut i ddefnyddio gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd y Cynnig Gofal Plant i Gymru ar gael yn 2022, cyn cyflwyno’r gwasanaeth.

Taflen Gwasanaeth Digidol Newydd y Cynnig Gofal Plant i Gymru

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button