prev
next
play
pause

Tîm Integreiddio Blynyddoedd Cynnar

Tîm Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar yn ardal Cwm Gwendraeth

Beth sydd ymlaen

Mae tîm Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar Cwm Gwendraeth yn wasanaeth sy’n darparu amrywiaeth o gymorth a chefnogaeth blynyddoedd cynnar

  • Cymorth i deuluoedd a chefnogaeth i rhieni ar gyfer
    materion fel hyfforddiant poti, ymddygiad, diddyfnu,
    bwyta ffyslyd
  • Gwybodaeth am grwpiau lleol eraill
  • Grwpiau ar gyfer teuluoedd a phlant fel Tylino Babi, Iaith a chwarae,
  • Cefnogaeth iaith a lleferydd
  • Syniadau i’w gwneud gartref gyda’r teulu
  • Darpariaeth ddwyieithog

Tylino Babi

baby massage Mae’r cwrs tylino babanod yn cael ei redeg gan ein Swyddfa Cymorth i Deuluoedd ac yn gyfle perffaith i dreulio amser gwirioneddol arbennig gyda’ch babi ac mae tylino babanod gyda llawer o fuddion sy’n cynnwys:
• helpu patrwm cysgu babanod
• lleddfu colig, rhwymedd a gwynt
• cynorthwyo cylchrediad babanod a’u helpu i ymlacio
• hyrwyddo bondio ac ymlyniad

Am fwy o wybodaeth / archebu ymlaen i’r cwrs nesaf cysylltwch â’ch Ymwelydd Iechyd (Ardal Cwm Gwendraeth yn unig)

Noder – mae’r cwrs hon ond ar gael i deuluoedd o dan Ymwelwyr Iechyd Cwm Gwendraeth)

Cymerwch gip ar Sarah ein Swyddog Cymorth i Deuluoedd yn siarad trwy ein cwrs tylino babanod

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button