Rhaglen Dysgu am Awtistiaeth
Rhaglen Dysgu am Awtistiaeth
Nod y rhaglen Dysgu am Awtistiaeth yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth ar draws y lleoliadau Blynyddoedd Cynnar. Dyma gwefan www.autismwales.org ac ar y wefan fe welwch adnoddau sydd wedi’u datblygu mewn partneriaeth â phobl awtistig, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae’r adnoddau wedi’u hanelu at gynyddu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o awtistiaeth ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar.
Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth eleni yw’r 28ain o Fawrth. Bydd Emma Wheeler a minnau yn cynnig sesiwn galw heibio ddydd Gwener 25 Mawrth 3.30pm-4.30pm i gefnogi eich taith drwy’r achrediad i ddod yn lleoliad sy’n gyfeillgar i awtistiaeth. Byddwn yn siarad â chi drwy’r modiwlau, yr adnoddau ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu i ymuno â’r sesiwn galw heibio, anfonwch e-bost ataf i MEBray@sirgar.gov.uk