Cynnig Gofal Plant Cymru i ailagor

Cynnig Gofal Plant Cymru i ailagor

Cafodd y Cynnig Gofal Plant, a oedd yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth ar gyfer rhieni cymwys â phlant 3 a 4 oed, eu hatal dros dro ym mis Ebrill er mwyn gallu canolbwyntio adnoddau ar anghenion gofal plant gweithwyr critigol a phlant sy’n agored i niwed drwy Gynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws.

Wrth i’r cyfyngiadau symud ddechrau cael eu llacio, ac wrth i ysgolion baratoi i ddychwelyd o fis Medi, bydd y Cynnig yn dechrau derbyn ceisiadau o’r newydd, gan alluogi teuluoedd cymwys i fanteisio ar y gofal plant a ariennir.

Bydd y Cynnig yn agor eto ar gyfer ceisiadau yn ystod Awst a Medi.

Bydd rhieni a fyddai wedi bod yn gymwys ar gyfer y Cynnig yn nhymor yr haf (plant a gyrhaeddodd eu pen-blwydd yn 3 oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth, 2020), ond a gollodd dymor cyfan am nad oeddent wedi dechrau derbyn y Cynnig cyn y pandemig, yn cael derbyn y Cynnig o ddechrau tymor yr hydref yn Sir Gaerfyrddin, os ydynt yn dal i fod yn gymwys. Bydd ceisiadau ar gyfer y plant hyn yn agor ddydd Llun 10 Awst.

Bydd y rhieni hynny y mae eu plentyn yn dod yn gymwys ar gyfer y Cynnig yn Sir Gaerfyrddin o dymor yr hydref (plant a gyrhaeddodd eu pen-blwydd yn 3 oed rhwng 1 Ebrill a 31 Awst, 2020), yn cael gwneud cais o ddydd Mercher 9 Medi a gallant dderbyn lle wedi’i ariannu ar ôl i’r awdurdod brosesu eu cais a chadarnhau eu bod yn gymwys.

 

 


Gwybodaeth bwysig i rieni cyn gwneud cais:

Mae’n rhaid i rieni/gofalwyr sicrhau bod y wybodaeth ganlynol ar gael ar ffurf llun neu’n electronig yn barod i’w llwytho fel rhan o’u cais.

  • Tystysgrif geni’r plentyn
  • Prawf o’ch cyfeiriad (Bil y dreth gyngor neu fil cyfleustodau, dyddiedig o fewn y 3 mis diwethaf)
  • Slipiau cyflog – 3 slip cyflog misol mwyaf diweddar ar gyfer pob rhiant neu os telir yn wythnosol, slip cyflog ar gyfer pob wythnos am y 3 mis diwethaf.
  • Os ydych yn hunangyflogedig, eich Ffurflen Dreth Hunanasesu ddiweddaraf.
  • Os yw rhieni mewn cyflogaeth newydd ac nad oes ganddynt slip cyflog, mae’n rhaid iddynt gael copi o’u contract neu lythyr gan y cyflogwr yn cadarnhau’r incwm a’r oriau a weithir.

Dylai unrhyw un sy’n cael trafferth lanlwytho tystiolaeth fel rhan o’r cais anfon y dystiolaeth mewn e-bost i gofalplantsirgar@ceredigion.gov.uk yn syth ar ôl cwblhau’r cais.

Bydd rhieni nad ydynt yn atodi tystiolaeth fel rhan o’u cais yn oedi’r broses gymeradwyo. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sydd wedi’u cwblhau’n llawn.

Bydd ymateb i ymholiadau megis “pryd fydd fy nghais yn cael ei brosesu?” dim ond yn oedi tîm Gofal Plant Ceredigion rhag ymdrin â cheisiadau gwirioneddol. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chysylltu â’r tîm o fewn y cyfnod o 28 diwrnod. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd.

Sylwch, hyd yn oed os ydych wedi cyflwyno cais ar gyfer y Cynnig – Os bydd rhiant yn defnyddio gofal plant cyn i’w gais gael ei gymeradwyo, mae’r rhiant yn atebol am dalu costau’r gofal plant ac ni ellir ôl-ddyddio unrhyw gyllid gofal plant ar gyfer y cyfnod cyn i gais gael ei gymeradwyo.

Canllawiau i rieni ar ailagor ceisiadau ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru: coronafeirws

PARENT ONLINE APPLICATION FORM


List of Non-Maintained settings Summer 2020

 

Cynnig Gofal Plant Cymru

Proses Cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar gyfer Darparwyr Gofal Plant Cofrestredig

Mae’n ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor Sir Ceredigion (Awdurdod trosglwyddo ar ran Cyngor Sir Gâr) er mwyn trosglwyddo’r Cynnig Gofal Plant i blant cymwys o fewn Sir Gâr.

Y Cynnig Gofal Plant Cwestiynau ac Atebion i Ddarparwyr

Mae’r ffurflen gofrestru ar-lein i ddarparwyr gofal plant nawr ar agor i chi gweler linc isod.

Canllawiau i ddarparwyr gofal plant ar ailagor ceisiadau ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru: coronafeirws

The on-line registration form for Childcare Providers is now open for you to complete.  Please click on the following link to access the site:

FFURFLEN COFRESTRU DARPARWR GOFAL PLANT

Unwaith byddwch wedi creu cyfri Clic i’ch sefydliad, dewiswch yr opsiwn ‘Cofrestru I Ddarparwyr Gofal Plant (Sir Gaerfyrddin)’.  Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gofrestru ar gyfer pob gwasanaeth rydych yn gynnig e.e. Meithrinfa ddydd, Clwb ar ôl Ysgol, Clwb Gwyliau ac ati.

Pan fyddwch wedi cwblhau eich ffurflen cofrestru ar-lein fyddwch yn derbyn cytundeb fydd angen i chi arwyddo a’i ddychwelyd i Click Ceredigion.

Os byddwch yn cael unrhyw drafferthion gyda’r broses gofrestru cysylltwch â Chlic Ceredigion ar 01545 570881 neu e-bost  clic@ceredigion.gov.uk

Darparwr Gofal Plant

 

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button