Arolwg ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n defnyddio gofal plant yng Nghymru

Arolwg ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n defnyddio gofal plant yng Nghymru

Mae Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol am ddeall anghenion teuluoedd sydd â phlant rhwng 0 ac 17 oed yng Nghymru o ran gofal plant.

Mae eich barn yn bwysig iawn inni, a hoffem wybod mwy am eich profiadau chi o ddefnyddio gwasanaethau cofrestredig (hy gwasanaethau sydd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) a gofal plant heb ei gofrestru (mae nanis, au pairs a rhai clybiau gweithgareddau /chwaraeon yn perthyn i’r categori hwn, er enghraifft). Bydd eich barn yn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru ac i helpu awdurdodau lleol i gynllunio gwasanaethau gofal plant. Fodd bynnag, ni all awdurdodau lleol warantu y gellir bodloni pob cais am ddarpariaeth gofal plant.

 

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefannau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

Cwblhewch yr arolwg yma

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *