Gweithgareddau Awyr Agored o amgylch Cwm Gwendraeth

Llwybrau Cerdded yng Nghwm Gwendraeth

Ydych chi’n mynd allan am dro? os felly ble ydych chi’n mynd am dro? neu eisiau cael rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded lleol?

Dydyn ddim yn gallu cynnal unrhyw sesiwn cerdded oherwydd cyfyngiadau presennol Cyfyngiadau COVID, dyma rai llwybrau cerdded lleol yn ardal Cwm Gwendraeth sy’n addas i deuluoedd eu harchwilio.

Cofiwch ddilyn canllawiau COVID wrth gerdded allan

Sylwer: Mae’r rhai o’r adnoddau hyn yn Saesneg yn unig

Cerdded yn Sir Gar Llyn Llech Owen Mynydd Mawr Woodland Garn Fach Tumble Coed Ffos Las Carway Swiss Valley Cycle Route – Tumble and Crosshands

thumbnail of walking_booklet_e

Edrychwch ar y llyfryn hwn am syniadau chwareus ar gyfer teithiau cerdded i’r teulu (Adnodd Saesneg yn unig) 

 

Meysydd chwarae yn ardal Cwm Gwendraeth

Gall meysydd chwarae ddarparu lle diogel i blant chwarae’n rhydd yn yr awyr agored yn barciau a mannau agored eraill.

Nodyn – Rhaid i deuluoedd ddilyn canllawiau a chyfyngiadau presennol COVID

  • Parc y Tymbl/Parc Mynydd Mawr
  • Parc Llannon Parc Cefneithin
  • Parc Crosshands
  • Parc Gorlas
  • Parc Llyn Llech Owen
  • Maes Hamdden Pontyberem
  • Parc Penygroes
  • Parc Drefach

thumbnail of traditional-playground-games

Gemau Iard Chwarae Traddodiadol by Thérèse Hoyle (adnodd Saesneg yn unig)

Ttraditional Playground Games Booklet

Llwybrau Beicio yng Nghwm Gwendraeth

Oeddech chi’n gwybod y gallwch fynd ar lwybr beicio sy’n rhedeg o Crosshands i Lanelli trwy’r Tymbl a Horeb.

Mae llwybr hyfryd 19km neu 12 milltir ac yn dilyn llwybr Rheilffordd Mwynau hanesyddol Llanelli a Mynydd Mawr trwy gefn gwlad hyfryd Dyffryn Gwendraeth.

Mae’r llwybr yn wastad ar y cyfan, gydag arwyneb tarmac ac yn hawdd ei gyrraedd a chyfanswm yr amser yw tua 2 awr bob ffordd (y llwybr cyfan)

  • Mae maes parcio ar y ffordd yn Horeb neu gallwch ofyn yn y dafarn.
  • Yn Nhymbl mae parcio ar y ffordd
  • Gallwch hefyd barcio ar y ffordd yng Nghynheidre lle mae mynediad i’r llwybr
  • Gallwch barcio ar y ffordd yn Crosshands lle mae mynediad i’r llwybr
Gwybodaeth Beicio – Darganfyddwch Sir Gaerfyrddin

Cycle Information – Sustrans (saesneg yn unig)

Diolch yn fawr iawn am yr holl wybodaeth, mae wir wedi bod o gymorth felly diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button