prev
next
play
pause

Gweithgareddau i Blant a Theuluoedd

Beth sydd ymlaen a ble

Darpariaeth y Blynyddoedd Cynnar  yng

Nghwm Gwendraeth

Mae nifer o sefydliadau sy’n cynnig grwpiau a gweithgareddau i blant a theuluoedd yn yr ardal leol. Mae llawer ohonyn nhw AM DDIM

Tylino i Fabanod

Mae ein gweithwyr Cymorth yn cynnig Cyrsiau Tylino Babanod 5 wythnos AM DDIM i rieni newydd yng Nghwm Gwendraeth.  Mae Tylino i Fabanod yn gyfle gwych i fondio gyda’ch  babi, yn ogystal â helpu i hyrwyddo gwell cwsg a lleddfu colic a rhwymedd.

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer babanod 8 wythnos oed a throsodd.  Mae amseroedd a dyddiau’n amrywio, felly gofynnwch i’ch  Ymwelydd Iechyd am ragor o wybodaeth,  gall  eich cyfeirio ar gyfer y cwrs.

Cynhelir y cyrsiau’n ddwyieithog

Addas o 8 wythnos i tua 6 mis.

 

Canolfan Deuluol  Y Tymbl

Mae Canolfan Deuluol Y Tymbl wedi’i lleoli yng nghanol y Tymbl ac yn darparu darpariaeth a chymorth AM DDIM i deuluoedd yr ardal.

Ar hyn o bryd maent ar  agor ar   gyfer sesiynau ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth a Ddydd Mercher, ac oherwydd prinder lleoedd mae angen archebu eich lle yn eu grwpiau

Am ragor o wybodaeth ewch i Dudalen Facebook Canolfan Deulu’r Tymbl neu e-bostiwch y Ganolfan Deuluol ar tumblefamilycentre@outlook.com


Prosiect Rhieni Ifanc dan 26 oed

Mae prosiect Rhieni Ifanc Plant Dewi yn rhedeg grwpiau AM DDIM  yn benodol ar gyfer rhieni o dan 26 oed.  Carys a Vicky sy’n rhedeg y prosiect ac mae’n ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, tra’n cael hwyl a dysgu sgiliau newydd.

Mae’r grŵp yn  cyfarfod yn

Impact 242, (y tu ôl i Sinema Crosshands)

Dydd Mawrth

10.00 – 11.00am

Ffoniwch Carys ar 07483 966166 neu Vicky ar 07483966167

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook Plant Dewi

 

Teuluoedd Gyda’n Gilydd

 

Sesiynau Teuluoedd gyda’n Gilydd yw  sesiynau Aros a Chwarae AM DDIM  i chi a’ch plentyn/plant.  Maen nhw’n rhoi cyfle i  chi gwrdd â rhieni eraill, er  mwyn i’ch  plant chwarae, mwynhau gweithgareddau a chrefftau hwyliog.

Mae’r grŵp yn  cyfarfod yn

Impact 242, (tu ôl i Sinema Crosshands)

                            Dydd llun

                             1.00pm – 2.00pm

Ffoniwch Carys ar 07483 966166 neu Sam ar 07483966168

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook  Plant Dewi

 

Plant Dewi Baby Bundle Bank

Plant Dewi are supporting families in Carmarthenshire by providing essential resources and equipment to welcome a new baby into their new home.

Plant Dewi Baby Bundle can be found at Impact 242 in Crosshands Cinema (please contact Sam at Plant Dewi in advance before visiting)

For more information, make a donation or need a little extra support, please contact Sam at Plant Dewi Baby Bundle on 07483966168 or bbbplantdewi@plantdewi.co.uk

 

You can also visit their Facebook page

Grwpiau Ti a Fi

Mae grwpiau Ti a Fi  yn sesiynau i  chi a’ch  plentyn, maen nhw’n cael eu rhedeg gan y Mudiad Meithrin ac yn cynnig cyfle gwych i  chi a’ch babi gwrdd ag eraill, chwarae, a chymdeithasu mewn ffordd anffurfiol, a mewn awyrgylch Cymraeg.   Codir tâl am y  grwpiau hyn.

Llechyfedach, Tumble  07779 209374

Llanddarog a Drefach  07577 648443 Tudalen Facebook

Ty Croes 07394 634869Tudalen Facebook

Ponthenri 07817 465922  Tudalen Facebook

Llangyndeyrn 07854 771161 Tudalen Facebook

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Mudiad Meithrin  a’i grwpiau yma.

 

Cylch Meithrin

Efallai mai Cylch Meithrin fydd cyfle cyntaf eich plentyn i fynychu lleoliad ar ei ben ei hun.   Nôd  y grwpiau yw hyrwyddo addysg a ddatblygiad plant o 2 flwydd oed i oedran ysgol.  Mae’r plant  yn cael cyfle i fod gyda phlant eraill ac i ddysgu drwy chwarae yn yr Iaith Gymraeg  yn  bennaf.  Mae rhai grwpiau  ar agor bum diwrnod yr wythnos, ac eraill dim ond  rhai dyddiau.  Pan cewch eich plentyn lle, mae fel arfer am nifer penodol  o  ddiwrnodau’r wythnos, fydd hyn yn amrywio yn  dibynnu ar eich anghenion a’r lleoedd sydd ar gael.  Mae’r pris yn amrywio o grŵp i grŵp.  Gweler gwybodaeth am  Gynnig Gofal Plant Cymru isod.

Mae’r Cylchoedd hyn  yn boblogaidd iawn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â’r arweinydd yn gynnar er mwyn archebu lle i’ch plentyn. 

Bancffosfelen 01269 870272 Tudalen Facebook

Carwe 07772 188593

Cefneithin Gorslas 07772 765358 Tudalen Facebook

Llanddarog a Drefach 07577 648443 Tudalen Facebook

Llannon 07415 564785

Llechyfedach 07779 209374 Tudalen Facebook

Penygroes Morning 07402 485497

Penygroes Afternoon 07817 487148
Ponthenri 07817 465922
Pontyberem 07572 991982 Tudalen Facebook

Ty Croes 07761 666068

Am fwy o wybodaeth ar

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button