Rhiant/ Gofalwr
Cynnig Gofal Plant Cymru
Bydd Rhieni â phlant 3 a 4 oed sydd yn gweithio a leiaf 16 awr yr wythnos yn gymwys i dderbyn hyd at 30 awr gyfunol o addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant yn ystod tymor ysgol. Bydd yr addysg gynnar am ddim a ddarperir ar hyn o bryd drwy’r Cyfnod Sylfaen yn rhan o’r cynnig hwn. Am 9 wythnos o’r flwyddyn, y tu allan i’r tymor, bydd rhieni yn derbyn 30 awr yr wythnos o ofal plant.
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn gweithio’n unol â pholisi Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru:
Cynnig Gofal Plant Diwedd Cyfnod Cymwys
Ar y pwynt lle cynigir rhiant yn Sir Gaerfyrddin lle addysg llawn amser ar gyfer eu plentyn ni fyddwch yn gymwys bellach i dderbyn y Cynnig Gofal Plant yn ystod tymor yr ysgol.
Yn Sir Gaerfyrddin cynigir lleoliad llawn amser o ddechrau’r tymor mae’r plentyn yn troi yn 4 mlwydd oed. Bydd rhieni dal yn medru ymgeisio am yr hawl i wyliau hyd at y mis Medi ar ôl mae’r plentyn yn troi yn 4 mlwydd oed (3 wythnos y tymor).
Hawl I Wyliau
Plentyn A yn dathlu pen-blwydd yn 4 oed rhwng 1af Fedi a 31ain Rhagfyr |
Cynnig lle addysg llawn amser o Medi |
Ddim yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant o 1af Fedi ond hawl i 9 wythnos o ddarpariaeth cynnig gofal plant yn ystod gwyliau. Yn dod yn anghymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant 31ain Awst. |
Plentyn B yn dathlu penblwydd yn 4 oed rhwng 1af Ionawr a 31ain Fawrth |
Cynnig lle addysg llawn amser o Ionawr |
Yn gymwys am Gynnig Gofal Plant yn ystod tymor yr Hydref. Yn dod yn anghymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant o 1af Ionawr, ond yn parhau’n gymwys ar gyfer darpariaeth gwyliau pro rata. Yn dod yn anghymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant 31ain Awst. |
Plentyn C yn dathlu penblwydd yn 4 oed rhwng 1af Ebrill a 31ain Awst
|
Cynnig lle addysg llawn amser o Ebrill | Yn gymwys am Gynnig Gofal Plant yn ystod Tymor Hydref a Thymor y Gwanwyn. Yn anghymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant o’r 1af Ebrill, ond yn parhau’n gymwys ar gyfer darpariaeth gwyliau pro rata. Yn dod yn anghymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant 31ain Awst. |
*Yn dilyn cyhoeddiad bydd yr ysgolion yn cau o ddydd Gwener ymlaen (20 Mawrth). O’r wythnos nesaf ymlaen, mi fydd rhieni sydd yn derbyn cyllid o’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn gallu hawliau hyd at 30 awr o oriau gofal yn llinell gyda threfniadau arferol yn ystod gwyliau’r ysgol.
Os yw rhieni am gynyddu eu horiau, plîs gofynnwch iddynt e-bostio gofalplantsirgar@ceredigion.gov.uk
Er mwyn manteisio ar elfen gofal plant y cynnig rhaid i rieni a gwarcheidwaid:
- Bod â phlentyn 3 neu 4 oed sydd yn gallu cael mynediad i Addysg Feithrin Rhan-amser rhan-amser
- Cael eu cyflogi neu fod yn hunangyflogedig ac yn byw yng Nghymru yn barhaol. Rhaid i’r ddau riant/parau sy’n cyd-fyw fod yn gweithio mewn teulu dau riant, neu raid i’r unig riant fod yn gweithio mewn teulu un rhiant;
- At ddiben y cynllun peilot bydd angen i rieni/gofalwyr ennill cyflog wythnosol sy’n cyfateb i o leiaf 16 awr ar isafswm cyflog byw cenedlaethol neu’r cyflog cenedlaethol; neu yn derbyn budd-daliadau gofal penodol. Ni fydd rhiant yn gymwys os yw’n ennill mwy na £100,000 y flwyddyn – mae hwn yn gyfyngiad fesul rhiant
Beth sy’n digwydd os ydw i neu fy mhartner yn colli ein swydd?
Os bydd sefyllfa rhiant yn newid a’i fod felly yn anghymwys, caniateir cyfnod eithrio dros dro o 8 wythnos pan fydd yn gallu parhau i fanteisio ar y cynnig.
Eithriadau i’r gofynion cymhwysedd
Bydd rhieni sydd i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar absenoldeb salwch neu oherwydd absenoldeb rhiant (gan gynnwys absenoldeb mamolaeth, absenoldeb rhiant a rennir statudol a thâl neu absenoldeb mabwysiadu) yn parhau i fod yn gymwys i fanteisio ar y cynnig oherwydd ystyrir eu bod wedi’u cyflogi.
Pa fydd un rhiant yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ac mae’r rhiant arall yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol, bydd y plentyn hwnnw yn gallu manteisio ar y cynnig o hyd:
- Budd-dal analluogrwydd
- Lwfans gofalwyr
- Lwfans anabledd difrifol
- Budd-dal analluogrwydd hirdymor
- Lwfans cyflogaeth a chymorth
- Credydau yswiriant gwladol ar sail analluogrwydd ar gyfer gwaith neu alluogrwydd cyfyngedig ar gyfer gwaith
Ni fydd teuluoedd lle mae’r ddau riant yn derbyn y budd-daliadau uchod yn gallu manteisio ar y cynnig.
* GWYBODAETH PWYSIG I RIENI SYDD YN DERBYN ADDYSG BLYNYDDOEDD CYNNAR CYFNOD SYLFAEN RHAN AMSER MEWN YSGOLION 3-11 *
NEWIDIADAU I ORIAU TYMOR YR HAF 2019
Mae ysgolion categori 3-11 wedi bod yn cynnig amrywiaeth o oriau a sesiynau rhan amser o Addysg Blynyddoedd Cynnar Cyfnod Sylfaen i blant 3 oed. Roedd hyn yn amrywio o 10 awr yr wythnos hyd at 17 awr yr wythnos.
Gweler tabl atodedig sy’n dangos nifer yr oriau mae pob Pennaeth yr Ysgol wedi ymrwymo i ddarparu o Dymor yr Haf ymlaen. Os yw plant yn derbyn 12.5 o addysg blynyddoedd cynnar Cyfnod Sylfaen mewn ysgol bydd hawl ganddynt bellach i 17.5 awr gofal plant yn ystod y tymor. Os yw plant yn derbyn 10 awr o addysg blynyddoedd cynnar Cyfnod Sylfaen bydd hawl ganddynt bellach i dderbyn 20 awr o ofal plant yn ystod y tymor. Nid yw’r cyfanswm o addysg a gofal ddim wedi newid, a dal yn parhau/ond nid yw’n medru derbyn yn fwy na 30 awr yr wythnos i bob plentyn.
gofalplantsirgar@ceredigion.gov.uk
Rhestr o ysgolion oriau addysg blynyddoedd cynnar Cyfnod Sylfaen
Lleoliadau Nas Cynhelir – Sir Gar
Proses Cyflwyno Cais ar gyfer Rhieni/Gwarcheidwaid Cymwys
Cyngor Sir Ceredigion yw’r Awdurdod Darparu ar ran Sir Gaerfyrddin ar gyfer y Cynnig Gofal Plant.
Cyn i chi gwblhau eich cais, mae’n rhaid i chi drafod â’r Darparwyr (darparwyr) Gofal Plant Cofrestredig AGC o’ch dewis ynghylch yr oriau yr ydych am eu sicrhau. Bydd pob plentyn cymwys yn gallu derbyn cyllid o 7 Ionawr 2019 ymlaen. Ni fydd modd i chi gyflwyno eich cais hyd nes bod y darparwr gofal plant o’ch dewis wedi cofrestru ar-lein a llofnodi a dychwelyd ei gontract drwy ddefnyddio Clic Ceredigion. Cofiwch wirio hyn gyda’ch darparwr gofal plant cyn dechrau ar eich cais.
Gwybodaeth a ffurflen gais ar-lein ar gyfer Rhieni/Gwarcheidwaid.
Cyn dechrau ar eich cais bydd angen y dogfennau canlynol arnoch (Gall y dystiolaeth ofynnol fod yn ddogfennau/ffotograffau wedi’u sganio ar ffurf .pdf neu .jpg):
- Sgan/ffotograff o dystysgrif geni eich plentyn.
- Rhifau Yswiriant Gwladol pob rhiant.
- Sganiau/ffotograffau o slipiau cyflog y rhieni dros y tri mis diwethaf.
- Os ydych yn hunan-gyflogedig gallwch gyflwyno eich ffurflen hunanasesiad diweddaraf (Ffurflen CThEM SA103) neu os yw’r busnes yn newydd (wedi sefydlu o fewn y 12 mis diwethaf) oherwydd fydd na ddim ffurflen hunan-gyflogedig gennych fydd angen cyflwyno copi o lythyr wrth CThEM yn cadarnhau Eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr.
- Sgan/ffotograff o brawf preswyliaeth, (e.e. Datganiad y Dreth Gyngor ddiweddaraf, cyfriflen banc, bil cyfleustodau)
- Oriau a diwrnodau’r darparwyr gofal plant y cytunwyd arnynt
- Manylion cyswllt cyflogwr, gan gynnwys: Cyfeiriad, rhif ffôn ac e-bost.
- Sgan/ffotograff o unrhyw lythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu lythyr gan gyflogwr presennol a fyddai’n gwneud rhieni’n gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant os nad ydynt yn gweithio ar hyn o bryd.
Ni allwch gadw eich cais felly dylech sicrhau bod gennych y dogfennau perthnasol cyn dechrau ar y cais. Cliciwch yma i dechrau:
FFURFLEN COFRESTRUOs ydych yn cael unrhyw drafferthion o ran y broses gofrestru, cysylltwch â Clic Ceredigion drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon e-bost at clic@ceredigion.gov.uk