Dyddiadau Hyfforddiant
Dyddiadau Hyfforddiant
Mae Hyfforddiant TAF ar gael i’r holl ymarferwyr, asiantaethau a mudiadau sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Ni chodir tâl am yr hyfforddiant.
Gellir trefnu sesiynau hyfforddiant wedi’u teilwra ar gyfer grwpiau mwy o fewn y mudiad. Cysylltwch â thîm TAF i gael rhagor o wybodaeth.
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o TAF
Mae’r hyfforddiant hwn yn rhoi golwg gyffredinol ar y Model TAF yn Sir Gaerfyrddin a sut i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i gael mynediad i gymorth TAF. Mae’r sesiwn yn para tua 2 i 3 awr, ond gellir teilwra’r hyfforddiant ar gyfer anghenion y mudiad.
Hyfforddiant TAF
Mae’r hyfforddiant 1 diwrnod hwn wedi’i anelu at staff sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd a fydd yn rhan o’r broses TAF, pa un a ydynt yn Weithwyr Allweddol neu’n ymarferwyr sy’n cyfrannu at Gynllun Cymorth TAF
RHAGLEN HYFFORDDIANT TAF
Oherwydd COVID-19 mae hyfforddiant Tim o Amgylch y Teulu am 2020 wedi ei ohirio tan hysbysiad bellach.