prev
next
play
pause

Cynnig Gofal Plant

Rhiant/ Gofalwr

Cynnig Gofal Plant Cymru

Bydd Rhieni â phlant 3 a 4 oed sydd yn gweithio a leiaf 16 awr yr wythnos yn gymwys i dderbyn hyd at 30 awr gyfunol o addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant yn ystod tymor ysgol.  Bydd yr addysg gynnar am ddim a ddarperir ar hyn o bryd drwy’r Cyfnod Sylfaen  yn rhan o’r cynnig hwn. Am 9 wythnos o’r flwyddyn, y tu allan i’r tymor, bydd rhieni yn derbyn 30 awr yr wythnos o ofal plant.

 


Mae’r Cynnig Gofal Plant yn gweithio’n unol â pholisi Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru:

http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/children-and-young-people/childcare/talk-childcare/?skip=1&lang=cy

 

thumbnail of Application Dates 2020 to 2021 CYM


Cynnig Gofal Plant Diwedd Cyfnod Cymwys

Ar y pwynt lle cynigir rhiant yn Sir Gaerfyrddin lle addysg llawn amser ar gyfer eu plentyn ni fyddwch yn gymwys bellach i dderbyn y Cynnig Gofal Plant yn ystod tymor yr ysgol.

Polisi Derbyn ysgolion

Yn Sir Gaerfyrddin cynigir lleoliad llawn amser o ddechrau’r tymor mae’r plentyn yn troi yn 4 mlwydd oed. Bydd rhieni dal yn medru ymgeisio am yr hawl i wyliau hyd at y mis Medi ar ôl mae’r plentyn yn troi yn 4 mlwydd oed (3 wythnos y tymor).


Hawl I Wyliau

 

Plentyn A yn dathlu pen-blwydd yn 4 oed rhwng 1af Fedi a 31ain Rhagfyr

 

Cynnig lle addysg llawn amser o Medi

Ddim yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant o 1af Fedi ond hawl i 9 wythnos o ddarpariaeth cynnig gofal plant yn ystod gwyliau. Yn dod yn anghymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant 31ain Awst.
Plentyn B yn dathlu penblwydd yn 4 oed rhwng 1af Ionawr a 31ain Fawrth  

Cynnig lle addysg llawn amser o Ionawr

Yn gymwys am Gynnig Gofal Plant yn ystod tymor yr Hydref. Yn dod yn anghymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant o 1af Ionawr, ond yn parhau’n gymwys ar gyfer darpariaeth gwyliau pro rata. Yn dod yn anghymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant 31ain Awst.
 

 

Plentyn C yn dathlu penblwydd yn 4 oed rhwng 1af Ebrill a 31ain Awst

 

 

Cynnig lle addysg llawn amser o Ebrill Yn gymwys am Gynnig Gofal Plant yn ystod Tymor Hydref a Thymor y Gwanwyn. Yn anghymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant o’r 1af Ebrill, ond yn parhau’n gymwys ar gyfer darpariaeth gwyliau pro rata. Yn dod yn anghymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant 31ain Awst.

*Yn dilyn cyhoeddiad bydd yr ysgolion yn cau o ddydd Gwener ymlaen (20 Mawrth). O’r wythnos nesaf ymlaen, mi fydd rhieni sydd yn derbyn cyllid o’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn gallu hawliau hyd at 30 awr o oriau gofal yn llinell gyda threfniadau arferol yn ystod gwyliau’r ysgol.

Os yw rhieni am gynyddu eu horiau, plîs gofynnwch iddynt  e-bostio  gofalplantsirgar@ceredigion.gov.uk

Er mwyn manteisio ar elfen gofal plant y cynnig rhaid i rieni a gwarcheidwaid:

  • Bod â phlentyn 3 neu 4 oed sydd yn gallu cael mynediad i Addysg Feithrin Rhan-amser rhan-amser
  • Cael eu cyflogi neu fod yn hunangyflogedig ac yn byw yng Nghymru yn barhaol. Rhaid i’r ddau riant/parau sy’n cyd-fyw fod yn gweithio mewn teulu dau riant, neu raid i’r unig riant fod yn gweithio mewn teulu un rhiant;
  • At ddiben y cynllun peilot bydd angen i rieni/gofalwyr ennill cyflog wythnosol sy’n cyfateb i o leiaf 16 awr ar isafswm cyflog byw cenedlaethol neu’r cyflog cenedlaethol; neu yn derbyn budd-daliadau gofal penodol. Ni fydd rhiant yn gymwys os yw’n ennill mwy na £100,000 y flwyddyn – mae hwn yn gyfyngiad fesul rhiant

Beth sy’n digwydd os ydw i neu fy mhartner yn colli ein swydd?

Os bydd sefyllfa rhiant yn newid a’i fod felly yn anghymwys, caniateir cyfnod eithrio dros dro o 8 wythnos pan fydd yn gallu parhau i fanteisio ar y cynnig.

Eithriadau i’r gofynion cymhwysedd

Bydd rhieni sydd i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar absenoldeb salwch neu oherwydd absenoldeb rhiant (gan gynnwys absenoldeb mamolaeth, absenoldeb rhiant a rennir statudol a thâl neu absenoldeb mabwysiadu) yn parhau i fod yn gymwys i fanteisio ar y cynnig oherwydd ystyrir eu bod wedi’u cyflogi.

Pa fydd un rhiant yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ac mae’r rhiant arall yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol, bydd y plentyn hwnnw yn gallu manteisio ar y cynnig o hyd:

  • Budd-dal analluogrwydd
  • Lwfans gofalwyr
  • Lwfans anabledd difrifol
  • Budd-dal analluogrwydd hirdymor
  • Lwfans cyflogaeth a chymorth
  • Credydau yswiriant gwladol ar sail analluogrwydd ar gyfer gwaith neu alluogrwydd cyfyngedig ar gyfer gwaith

Ni fydd teuluoedd lle mae’r ddau riant yn derbyn y budd-daliadau uchod yn gallu manteisio ar y cynnig.

* GWYBODAETH PWYSIG I RIENI SYDD YN DERBYN ADDYSG BLYNYDDOEDD CYNNAR CYFNOD SYLFAEN RHAN AMSER MEWN YSGOLION 3-11 *

NEWIDIADAU I ORIAU TYMOR YR HAF 2019

Mae ysgolion categori 3-11 wedi bod yn cynnig amrywiaeth o oriau a sesiynau rhan amser o Addysg Blynyddoedd Cynnar Cyfnod Sylfaen i blant 3 oed. Roedd hyn yn amrywio o 10 awr yr wythnos hyd at 17 awr yr wythnos.

Gweler tabl atodedig sy’n dangos nifer yr oriau mae pob Pennaeth yr Ysgol wedi ymrwymo i ddarparu o Dymor yr Haf ymlaen. Os yw plant yn derbyn 12.5 o addysg blynyddoedd cynnar Cyfnod Sylfaen mewn ysgol bydd hawl ganddynt bellach i 17.5 awr gofal plant yn ystod y tymor. Os yw plant yn derbyn 10 awr o addysg blynyddoedd cynnar Cyfnod Sylfaen bydd hawl ganddynt bellach i dderbyn 20 awr o ofal plant yn ystod y tymor. Nid yw’r cyfanswm o addysg a gofal ddim wedi newid, a dal yn parhau/ond nid yw’n medru derbyn yn fwy na 30 awr yr wythnos i bob plentyn.

gofalplantsirgar@ceredigion.gov.uk

Rhestr o ysgolion oriau addysg blynyddoedd cynnar Cyfnod Sylfaen

Lleoliadau Nas Cynhelir – Sir Gar

thumbnail of Parent’s eligibility on the childcare Offer – flowchart – CYM FINAL – PDF

Proses Cyflwyno Cais ar gyfer Rhieni/Gwarcheidwaid Cymwys

Cyngor Sir Ceredigion yw’r Awdurdod Darparu ar ran Sir Gaerfyrddin ar gyfer y Cynnig Gofal Plant.

Cwestiynau Cyffredin i Rieni

Cyn i chi gwblhau eich cais, mae’n rhaid i chi drafod â’r Darparwyr (darparwyr) Gofal Plant Cofrestredig AGC o’ch dewis ynghylch yr oriau yr ydych am eu sicrhau. Bydd pob plentyn cymwys yn gallu derbyn cyllid o 7 Ionawr 2019 ymlaen. Ni fydd modd i chi gyflwyno eich cais hyd nes bod y darparwr gofal plant o’ch dewis wedi cofrestru ar-lein a llofnodi a dychwelyd ei gontract drwy ddefnyddio Clic Ceredigion.  Cofiwch wirio hyn gyda’ch darparwr gofal plant cyn dechrau ar eich cais.

Gwybodaeth a ffurflen gais ar-lein ar gyfer Rhieni/Gwarcheidwaid.

Cyn dechrau ar eich cais bydd angen y dogfennau canlynol arnoch (Gall y dystiolaeth ofynnol fod yn ddogfennau/ffotograffau wedi’u sganio ar ffurf .pdf neu .jpg):

  • Sgan/ffotograff o dystysgrif geni eich plentyn.
  • Rhifau Yswiriant Gwladol pob rhiant.
  • Sganiau/ffotograffau o slipiau cyflog y rhieni dros y tri mis diwethaf.
  • Os ydych yn hunan-gyflogedig gallwch gyflwyno eich ffurflen hunanasesiad diweddaraf (Ffurflen CThEM SA103) neu os yw’r busnes yn newydd (wedi sefydlu o fewn y 12 mis diwethaf) oherwydd fydd na ddim ffurflen hunan-gyflogedig gennych fydd angen cyflwyno copi o lythyr wrth CThEM yn cadarnhau Eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr.
  • Sgan/ffotograff o brawf preswyliaeth, (e.e. Datganiad y Dreth Gyngor ddiweddaraf, cyfriflen banc, bil cyfleustodau)
  • Oriau a diwrnodau’r darparwyr gofal plant y cytunwyd arnynt
  • Manylion cyswllt cyflogwr, gan gynnwys: Cyfeiriad, rhif ffôn ac e-bost.
  • Sgan/ffotograff o unrhyw lythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu lythyr gan gyflogwr presennol a fyddai’n gwneud rhieni’n gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant os nad ydynt yn gweithio ar hyn o bryd.

Ni allwch gadw eich cais felly dylech sicrhau bod gennych y dogfennau perthnasol cyn dechrau ar y cais. Cliciwch yma i dechrau:

FFURFLEN COFRESTRU

Os ydych yn cael unrhyw drafferthion o ran y broses gofrestru, cysylltwch â Clic Ceredigion drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon e-bost at clic@ceredigion.gov.uk

Cynnig Gofal Plant

Cynnig Gofal Plant

Cynnig Gofal Plant

Cynnig Gofal Plant

Cynnig Gofal Plant

Cynnig Gofal Plant

thumbnail of Talk Childcare – Poster

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button