Ymwelwyr Iechyd
Mae Ymwelwyr Iechyd yn Nyrsys Iechyd y Cyhoedd. Maent yn gweithio gyda theuluoedd i hybu iechyd da ac i atal salwch. Mae Ymwelydd Iechyd yn cael ei bennu i deuluoedd 10-14 diwrnod ar ôl genedigaeth baban newydd hyd nes ei fod yn 5 oed.
Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi cysylltiadau allweddol Ymwelwyr Iechyd ar gyfer teuluoedd:
- Ymweliad geni 10 -14 diwrnod ar ôl i’ch babi gael ei eni.
- Imiwneiddiadau sylfaenol yn eich meddygfa deuluol yn 8, 12 ac 16 wythnos oed.
- Bydd ymweliad cartref hefyd yn cael ei gynnig rhwng 8 ac 16 wythnos.
- Ymweliad cartref yn 6 mis oed.
- Imiwneiddiadau wedi’u hamserlennu yn 12-13 mis oed.
- Mae pob plentyn yng Nghymru yn cael asesiad datblygiadol yn 15 mis oed.
- Mae pob plentyn yng Nghymru yn cael asesiad datblygiadol yn 27 mis oed.
- Imiwneiddiadau cyn-ysgol yn 3 blwydd a 4 mis oed.
- Yn 5 oed bydd cofnod iechyd eich plentyn yn cael ei drosglwyddo i nyrs yr ysgol.
Yn ystod yr ymweliadau, bydd Ymwelwyr Iechyd yn asesu tyfiant a datblygiad babanod ac yn rhoi cyngor am faterion allweddol sy’n gwella iechyd megis Imiwneiddio, bwydo babanod, diddyfnu, gofal y geg a diogelwch yn y cartref.
Maent hefyd yn cynnal clinigau galw heibio rheolaidd y gallwch eu defnyddio rhwng ymweliadau cartref.
Amseroedd Clinig Ymwelwyr Iechyd Cwm Gwendraeth:
- Dydd Llun 1.30pm – 3.30pm ym Meddygfa Sarn, Pont-iets
- Dydd Mawrth 9.30am-11.30am Canolfan Iechyd Crosshands (clinig Ymwelwyr Iechyd Tymbl)
- Dydd Mercher 1.30pm – 4.30pm ym Meddygfa Coalbrook, Pontyberem
- Dydd Iau 9.30am-11.30am Canolfan Iechyd Crosshands (clinig Ymwelwyr Iechyd Crosshands / Penygroes)
Imiwneiddio
Un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich plentyn rhag clefydau fel y frech goch, rwbela, tetanws a llid yr ymennydd yw drwy imiwneiddio. Cliciwch yma am yr amserlen imiwneiddio ar gyfer eich plentyn.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Dechrau am oes
Dechrau am oes, cymorth a chyngor dibynadwy gan y GIG yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a bod yn rhiant. (Sylwch fod y wefan hon gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr).
Bwmp, Babi a Thu Hwnt
“Gofalu amdanoch eich hun a’ch babi drwy gydol eich beichiogrwydd a thu hwnt.” Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ar gyfer Bwmp, Babi a Thu Hwnt, e-Lyfr fersiwn 2, cliciwch yma (Nodyn: dyma’r fersiwn Saesneg)
Imiwneiddio
Sicrhewch fod eich plentyn yn cael ei holl imiwneiddiadau i’w ddiogelu rhag clefydau y gellir eu hatal fel y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a llawer mwy. Cliciwch yma i weld yr amserlen imiwneiddio ar gyfer eich plentyn (Sylwch fod y wefan hon gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr).
Iechyd y Geg
Pydredd dannedd yw clefyd mwyaf cyffredin y geg sy’n effeithio ar blant yn y DU. Gall effeithio ar eu gallu i gysgu, bwyta, cymdeithasu a hyd yn oed siarad. Yn ffodus, drwy gymryd gofal da o’r geg, gellir atal pydredd dannedd bron bob amser.
Gan fod iechyd y geg mor bwysig, mae Ymwelwyr Iechyd yn gweithio gyda’r rhaglen gwella iechyd y geg a ariennir gan Lywodraeth Cymru o’r enw ‘Cynllun Gwên’.
I ddysgu mwy am Gynllun Gwên, cliciwch yma
Diogelwch yn y Cartref
Mae meddwl am ddiogelwch yn y cartref yn ffordd bwysig o helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn iach. I rieni, mae hyn yn golygu bod yn ymwybodol o risgiau a allai achosi anafiadau i blant, ac yna defnyddio strategaethau i helpu i’w hatal. Er enghraifft, defnyddio gatiau grisiau, cadw meddyginiaethau mewn cwpwrdd dan glo, neu storio cemegau peryglus fel hylifau glanhau mewn cypyrddau uchel. Y strategaeth bwysicaf i’w defnyddio i gadw plant yn ddiogel yw goruchwyliaeth, neu fod yn agos at eich plentyn wrth iddo chwarae, archwilio a dysgu. Bydd eich Ymwelydd Iechyd yn trafod diogelwch yn y cartref gyda chi yn yr ymweliadau cyswllt allweddol, fel pan fydd eich plentyn yn dechrau symud o gwmpas mwy (tua 6 mis), ond gall ei drafod mewn unrhyw ymweliad a gallwch ofyn am gyngor ar unrhyw adeg.
Mae teuluoedd yn Sir Gaerfyrddin hefyd yn cael cynnig archwiliad diogelwch yn y cartref am ddim gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Byddant yn dod i asesu’r risg tân yn eich cartref a byddant hefyd yn gosod larwm mwg, yn rhad ac am ddim. Gall eich ymwelydd iechyd wneud yr atgyfeiriad hwn ar eich rhan, ond gallwch hefyd gysylltu â nhw’n uniongyrchol: Archwiliad Diogelwch yn y Cartref
Magu Plant. Rhowch amser iddo.
Magu Plant yw’r swydd anoddaf yn y byd ac mae angen rhywfaint o gyngor a chefnogaeth arnom ni i gyd weithiau. Edrychwch ar y wefan Magu Plant. Rhowch amser iddo am awgrymiadau defnyddiol i helpu i ddeall datblygiad eich plentyn a rheoli cyfnodau heriol.
Tiny Happy People
Awgrymiadau ar sut i hybu sgiliau cyfathrebu eich plentyn drwy weithgareddau hwyliog pob dydd. Ewch i Tiny Happy People i weld mwy! (Sylwch fod y wefan hon yn Saesneg yn unig).
Gwybodaeth am fwydo ar y fron
Bwydo ar y Fron – Llaeth Mam
Mae tudalen Facebook Bwydo ar y Fron – Llaeth Mam yn cynnig cymorth â bwydo ar y fron i’r rheiny yn Sir Gaerfyrddin a’r cyffiniau.
Cymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron
Mae Cymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron (ABM) yn sefydliad gwirfoddol ac mae’n cefnogi mamau a theuluoedd, gan gynnig hyfforddiant a siarad dros deuluoedd sy’n bwydo ar y fron ar lefel eiriolaeth genedlaethol. (Nodyn: gwefan Saesneg yw hon_
Mae adnoddau am ddim ar gael ar y wefan yn ystod pandemig COVID-19.