Gofal Plant Di-dreth:
Gallwch gael hyd at £2,000 y flwyddyn i bob plentyn er mwyn helpu gyda chostau gofal plant drwy Ofal Plant Di-dreth.
Os byddwch yn cael Gofal Plant Di-dreth, byddwch yn sefydlu cyfrif gofal plant ar-lein ar gyfer eich plentyn. Am bob £8 a dalwch i’r cyfrif hwn, bydd y Llywodraeth yn talu £2 i dalu eich darparwr.
Credyd Cynhwysol ar gyfer Gofal Plant: Efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol.
Ffôn: 0800 328 5644 (Rhadffôn).
Cynnig Gofal Plant i Gymru: Hyd at 20 awr o Ofal Plant a ariennir am 48 wythnos y flwyddyn, yn ogystal ag Addysg y Blynyddoedd Cynnar, am y tri thymor yn dilyn trydydd penblwydd y plentyn. Rhaid i chi fod yn gweithio ac yn ennill yr hyn sy’n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar isafswm cyflog/cyflog byw, ond heb fod yn fwy na £100,000 yr un, y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth ewch i Gynnig Gofal Plant Cymru.