prev
next
play
pause

Gweithwyr Uniongyrchol TAF

Mae Gweithwyr Uniongyrchol Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) yn gweithio gyda’r Tîm TAF Canolog. Bydd y Gweithwyr yn darparu cymorth uniongyrchol i staff ysgolion a’r teuluoedd sydd â phlant rhwng 3 ac 11 oed.

Bydd Gweithwyr Uniongyrchol TAF yn gwneud y canlynol:

Gweithio gydag ysgolion:

  • Helpu staff ysgolion drwy ddarparu cyngor a chymorth cynnar i deuluoedd mewn perthynas â’u hanghenion e.e. ymddygiad, rhianta, profedigaeth, chwarae cadarnhaol, presenoldeb.
  • Rhaglenni rhianta grŵp yn yr ysgolion megis Ymdrin ag Ymddygiad Plant a’r Rhaglen Feithrin Cysylltiadau Teuluol.

Cefnogi rhieni ar sail un i un ac mewn grwpiau er mwyn:

  • gosod a chynnal ffiniau priodol a bod yn enghraifft gadarnhaol dda;
  • datrys achosion o wrthdaro o ran eu perthynas a mynd i’r afael â rhwystrau sy’n atal teuluoedd rhag gweithredu’n effeithiol;
  • lleihau straen a gwella eu gallu ymdopi.
Diolch yn fawr iawn am yr holl wybodaeth, mae wir wedi bod o gymorth felly diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button