Gweithredu dros Blant
Mae Gweithredu dros Blant yn rhoi cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd gyflawni eu potensial a gwneud y gorau o’u bywydau.
Drwy Teuluoedd yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin, mae Gweithredu dros Blant yn darparu amrywiaeth o raglenni rhianta sy’n cynnig offer, sgiliau a gwybodaeth ymarferol i helpu rhieni gyda phlant neu bobl ifanc rhwng 0-19 oed.
Rhaglenni rhianta gan gynnwys Ymdrin ag Ymddygiad Plant, Cysylltiadau Teuluol Rhaglen Anogaeth (3-11 oed) a TAKE3 (13-16 oed).
Mae Therapydd Chwarae yn gweithio gyda phlant 3-11 oed sydd ag anghenion cymhleth i’w helpu i ddod o hyd i ffyrdd priodol o brosesu eu profiadau a’u teimladau.
Gall Gweithredu dros Blant hefyd gefnogi rhieni sydd wedi gwahanu i helpu i wella cydrianta plentyn.
Cysylltwch am fwy o wybodaeth: 01554 745150