Tîm Arbenigol Iechyd Ieuenctid Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Mae Tîm Iechydm Iechyd Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11-25 oed sy’n agored i niwed, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac sydd â mynediad cyfyngedig at wasanaethau iechyd.
Maen nhw’n cynnig cymorth un i un i bobl ifanc ar faterion fel gorbryder, iselder, hunan-niwed, patrymau meddwl negyddol neu annefnyddiol, ymddygiad rhywiol amhriodol neu niweidiol.
Gall y tîm hefyd helpu rhieni i gynyddu eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth o sut i gefnogi person ifanc â phroblemau emosiynol ac iechyd meddwl.
Cysylltwch â 01554 748085