prev
next
play
pause

Tîm o Amgylch y Teulu

Tîm o Amgylch y Teulu

Tîm o Amgylch y Teulu

Croeso i’r Tîm o Amgylch y Teulu yn Sir Gaerfyrddin

O bryd i’w gilydd, mae pawb angen ychydig bach o gymorth ychwanegol i fyw bywydau hapus, iach a llwyddiannus. Mae’r Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) yn ffordd o ddod â phobl ynghyd sy’n gallu eich helpu chi a’ch teulu i wneud gwahaniaeth go iawn. Bydd y Tîm o Amgylch y Teulu yn gweithio gyda chi ac yn sicrhau eich bod chi’n cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch.

Nid Gwasanaeth Statudol yw’r Tîm o Amgylch y Teulu sy’n golygu na fyddwch chi’n gweithio gyda Gweithiwr Cymdeithasol. Does dim rhaid i chi weithio gyda’r Tîm o Amgylch y Teulu a gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg.

Gall y Tîm o Amgylch y Teulu ddarparu cymorth a chefnogaeth â phob math o faterion megis pryderon ynghylch yr ysgol ac addysg, ymddygiad, pryderon ynghylch iechyd, tai ac ati.

 

Cysylltwch ȃ Ni

Os oes angen i chi gysylltu â Tim o Amgylch y Teulu ffoniwch 01267 246555 neu e-bostiwch TAF@sirgar.gov.uk gyda’ch gofyniad neu Cais am Gymorth.

** Mae Tîm o amgylch y Teulu yn gweithio gyda theuluoedd i wella eu bywydau ond nid yw’n wasanaeth brys. Isod mae ychydig o gysylltiadau defnyddiol pe bai angen cefnogaeth frys arnoch chi. **

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant – 01554 742322 (oriau tu allan 0300 333 2222)

Llesiant Delta (Gwasanaethau Oedolion) – 0300 333 2222

 

Bywyd ACTif  – Cwrs i’ch helpu chi wella eich iechyd meddwl a’ch llesiant. I ddechrau ewch i phw.nhs.wales/activateyourlife.

SilverCloud –  Therapi ar-lein sy’n defnyddio dulliau megis Therapi Ymddygiad Gwybyddol i helpu pobl i reoli eu problemau. Ewch i  nhswales.silvercloudhealth.com/signup/.

C.A.L.L Llinell Gymorth Iechyd Meddwl – Yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth cyfrinachol 24/7 i unrhyw un sy’n bryderus am iechyd meddwl ei hun, perthynas neu ffrind.    Ffoniwch 0800132737, text “help” to 81066 neu ewch i callhelpline.org.uk/.

MIND Monitro Gweithredol – yn ddarparu hunangymorth dan arweiniad am 6 wythnos am pryder, iselder, hunan-barch, stres, unugrwydd, a mwy. Ewch i https://www.mind.org.uk/get-involved/active-monitoring-sign-up/active-monitoring-form/.

  • Mind Cymru Infoline
    Am wybodaeth ar bob fath o problemau iechyd meddwl ffoniwch 0300 123 3393, ebost info@mind.org.uk neu text 86463.
  • Samaritans Cymru
    Yn aberthu lle diogel i siarad am unrhyw beth sydd yn eich poeni 24/7.  Ffoniwch 116 123, neu ebost jo@samaritans.org
  • PAPYRUS
    Cyndeithas rhwystro hunanladdiad ifanc. HOPELINEUK 0800 068 4141 (papyrus-uk.org)
  • MEIC
    Cefnogaeth i blant a phobl ifanc. Ffoniwch 080880 23456, text 84001 (meiccymru.org)

 

Cais am Gymorth (JAFF rhan 1)

JAFF Cymraeg Rhan 1

Frechiad ffliw i Ofalwyr Di-dal

thumbnail of FLU poster Nov 2020 Final

Strategaeth Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23

thumbnail of 2018-23 Carmarthenshire Family Support Strategy CYM

Cyfeiriad

Tîm o Amgylch y Teulu
Hen Ysgol Y Babanod Morfa
Stryd Newydd
Llanelli
Sir Caerfyrddin SA15 2DQ

Rhif Ffon

01267 246555

Ebost

TAF@sirgar.gov.uk

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button