Y Tîm Ymgynghorol – Gofal Plant
Mae’r Tîm Ymgynghorol – Gofal Plant yn cynnwys:
- Jasmin Lewis-Hovey – Athrawes Pontio Blynyddoedd Cynnar
- Avril Chambers – Swyddog Cymorth Gofal Plant
- Rebecca Woods – Swyddog Cymorth Gofal Plant
- Hayley Davies – Cydgysylltydd Gofal Plant
Gellir cysylltu â’r tîm drwy ffonio rhif Dechrau’n Deg: 01554 742447
Beth yw ein gwaith?
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r lleoliadau i ddarparu gofal plant o s
afon uchel drwy ymweld â lleoliadau’n rheolaidd er mwyn cynnig cyngor a chymorth; yn ogystal â datblygu a monitro ansawdd arfer.
Er mwyn gwella darpariaeth gofal plant ym mhob un o’n lleoliadau meithrin, rydym yn cynnig gweithdai hyfforddiant sy’n cynnwys;
- Chwarae Stecslyd
- Byd Bach ac Adeiladu
- Dathlu Amrywiaeth Amlddiwylliannol a Dwyieithrwydd
- Cynllunio
- Ymlyniad a Fi
- Asesiadau Risg
- Proffiliau Cyfnod Sylfaen
- Numicon
- Chwarae â Thywod a Dŵr
Broses Bontio’n
Mae’r broses bontio’n chwarae rôl allweddol yn y tîm ymgynghorol – gofal plant, lle y mae swyddogion cymorth gofal plant yn gweithio mewn partneriaeth â’r holl leoliadau gofal plant, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol allweddol i sicrhau y bydd pob plentyn yn symud yn hwylus i’r feithrinfa. Mae hyn yn cynnwys cynnal cyfarfodydd pontio bob tymor rhwng y lleoliadau gofal plant perthnasol ac athrawon meithrinfeydd.
Nod Llywodraeth Cymru yw gwella presenoldeb mewn lleoliadau gofal plant ar draws yr holl Awdurdodau Dechrau’n Deg, gan gyrraedd targed o 95% erbyn 2020. Yn unol â hynny, mae swyddogion cymorth gofal plant yn gwirio’r cofrestri bob mis i sicrhau bod plant yn manteisio ar eu lleoedd gofal plant a ariennir, yn ogystal â monitro presenoldeb pob plentyn drwy ddefnyddio’r ‘Polisi Presenoldeb‘ gofal plant.