prev
next
play
pause

Banc Syniadau

Banc Syniadau

Mae ein banc syniadau wedi cael ei greu gan ein swyddogion cymorth teulu ac maen nhw’n syniadau dysgu hwyliog a pleserus i’w gwneud yn y gartref fel teulu

Cliciwch ar y categorïau isod i ddod o hyd i’r adnoddau ymrwymiad teuluol gwych hyn

Mwynhewch 🙂

Chwarae

thumbnail of Llwbr NaturLlwybr Natur

Beth am fynd am dro yn eich ardal leol a chwilio am wahanol goed, bywyd gwyllt ac o dan gerrig, beth allwch chi ddod o hyd iddo? Mae’n ffordd wych o archwilio’ch ardal chi fel teulu.

Llwbr Natur

thumbnail of Local Birds

Pa adar sydd yn eich ardal chi?

Ewch am dro o amgylch eich cymdogaeth, parc lleol neu dim ond edrych yn eich gardd, pa adar allwch chi eu gweld? Dyma restr wirio o adar y gallwch chi ddod o hyd iddynt yng Nghymru

thumbnail of Duck Race
Ras Hwyaid

Dewch i gael hwyl y tu allan yn y pyllau neu amser bath.

os oes gennych chi hwyaid baddon / anifeiliaid arnofio a gwellt, sefydlwch ras i weld pwy sy’n ennill.

BAROD, BEICIO, BANT A NI!

Eisiau cael syniadau i helpu’ch plentyn i ddysgu reidio beic, ymwelwch ag Adnodd BAROD, BEICIO, BANT A NI! i gael gemau hawdd am ddim i helpu’ch plentyn sut i feicio wrth gael llawer o hwyl ar hyd y ffordd. Mae’r gemau’n cynnwys gweithgareddau cydbwysedd i gael eich plentyn yn barod cyn iddo roi cynnig ar weithgareddau gyda beic.

BAROD, BEICIO, BANT A NI!

thumbnail of Jumoing Jade Welsh Neidio Dros Jade

Gosodwch offer i blant neidio drosodd mewn amryw o ffyrdd (h.y. rhaffau, pyllau , teganau

  • Cael y plant i neidio a glanio gyda’r ddwy droed a gwneud amrywiaeth o siapiau yn yr awyr
  • Creu llwybr neidio o amgylch y tŷ neu’r ardd iddynt neidio o gwmpas fel mwncïod / brogaod / cangarŵau

Neidio Dros Jade

Gêm Bwrw’r Bwced

Mae Bwrw’r Bwced yn gêm wych i ddatblygu taflu gwahanol wrthrychau naill ai at dargedau neu i mewn i dargedau o faint amrywiol, sydd wedi’u gosod pellter penodol i ffwrdd

  • Defnyddiwch wahanol wrthrychau targed yn y tŷ fel bin, blwch esgidiau, mat, cylchyn ac ati.
  • Gosod gwrthrychau ar wahanol bellteroedd, yn olynol, neu ar hap ar draws ystafell
  • Defnyddiwch wrthrych gwahanol i’w daflu fel pêl, hosan, papur newydd, bag ffa ac ati.
  • Gellir chwarae gêm y tu mewn neu’r tu allan

Gêm Bwrw’r Bwced

Gêm Dwli Dwl

  • Dylent ddechrau ag ystod o wrthrychau sy’n perthyn i un o ddau gategori, e.e. tedis a doliau, bagiau ffa a choetiau, llysiau a ffrwythau, ac ati.
  • Dylai’r plant godi un gwrthrych ar y tro, ei gario a’i osod mewn cylch/ardal ddynodedig, ac yna dychwelyd i’r man cychwyn i gael tro arall/i’r plentyn nesaf gael tro.

Gêm Dwli Dwl

 

Canllaw chwarae adref

logo playful childhood

Mae gan

Blentyndod Chwareus gyda Chanllaw Chwarae Adref, gyda syniadau chwarae hwyliog i ganiatáu i blant ddysgu a thyfu a chael plentyndod hapus ac iach. Cliciwch isod i gael golwg.

Canllaw Chwarae Adref

 

toddler playingwith bubbles Mae pawb yn hoffi chwarae gyda swigod

Meg ein swyddog cymorth i deuluoedd ar wneud swigod a ffon yn y gartref i gael hwyl y tu allan gyda’r teulu

Cliciwch yma ar sut i wneud swigod

 

Child playing in puddlesGadewch i ni fod yn wlyb a mynd am sblash yn y pyllau mwdlyd

Mae pyllau yn ffordd wych i blant gael hwyl

Rhowch esgidiau glaw a chot arno, ewch â’ch rhai bach allan i chwarae yn y glaw, a dod o hyd i byllau.

Hwyl ddiddiwedd!

 

Treasure mapGadewch i ni fynd allan i archwilio a mynd ar helfa drysor gyda’r teulu

Cliciwch isod i gael ffordd wych o archwilio’ch pentref / ardal a mynd ar Helfa Drysor Milltir Sgwâr

A allwch chi ddod o hyd i beth yn eich ardal leol? a thiciwch nhw wrth i chi fynd ymlaen, gwibdaith wych i’r teulu. Mwynhewch ????

Cliciwch yma i gael copi o helfa drysor y teulu

 

 

Cael hwyl yn chwarae gyda jeli a gadewch i ni fynd yn flêr

Chwarae Bler – Jeli

  • Cuddiwch gwrthrychau yn y jeli
  • Lledwch y jeli ar hambwrdd
  • Defnyddiwch unrhyw beth allwch ddod o hyd iddo yn y cartref
  • Gadewch i’ch plentyn fwynhau y gwead ac annog ei sgiliau motor man

 

Stori

Hwyl yn yr ardd

Llyfr o Play Wales | Chwarae Cymru

Mae’r llyfr stori hwn yn ein hatgoffa sut y gall yr holl oedolion ym mywydau plant un ai gefnogi neu rwystro’r hawl i chwarae.

Mae’r llyfr stori ar gyfer plant ysgol gynradd a rhieni, gan gefnogi plant i sicrhau eu hawl i chwarae ac i rieni i eiriol dros chwarae’n lleol

https://issuu.com/playwales/docs/fun_in_the_garden___hwyl_yn_yr_ardd

 

Amser Stori gyda Gaynor o Lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin

Gwrandewch ar Gaynor o Lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin, yn adrodd y stori ar Fy Seren Anwes gan Corrinne Averiss a Rosalind Beardshaw (Booktrust Cymru)

Mae Fy Seren Anwes yn stori am gyfeillgarwch a dysgu gadael i fynd: mae merch fach yn dod o hyd i seren wedi cwympo ac yn ei nyrsio’n yn ôl i iechyd

(Cliciwch ar y llun i gael mynediad i’r clip)

I gael mwy o amser straeon rhyfeddol, ymwelwch â Tudalen ‘Facebook’ Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin @CarmsLibraries

 

Defnyddio eich teganau gartref i ddod â llyfr yn fyw

thumbnail of Story with toys

Diddyfnu a Choginio

Bisgedi Dydd Santes Dwynwen

Beth am fynd ati i goginio bisgedi blasus dros y penwythnos i ddathlu Dydd Santes Dwynwen? Gwelwch beth mae Tîm Datblygu’r Gymraeg Sir wedi creu trwy’r iaith Gymraeg

Bisgedi Santes Dwynwen

Veggie Mix receipe Cymysgedd o Lysiau

Gan ddefnyddio rhai o ffefrynnau’r oergell, o gymysgedd o wahanol lysiau gan gynnwys swedsen, pys, a moron, cymysgwch i wneud piwrî llysiau llysieuol

Cymysgedd o Lysiau

Rysáit Piwrî Ffrwythau Gyntaf

Rysáit diddyfnu syml i roi cynnig ar ffrwythau gyda’ch babi am y tro cyntaf

Rysáit Piwrî Ffrwythau Gyntaf

thumbnail of Cheesy PastaPasta caws a llysiau wedi ei gyddio

Reseit syml a cyflym i’r teulu holl i fwynhau

Pasta caws

thumbnail of Pancakes

Crempogau

Resipi i wneud crempogau yn y cartref

Crempogau

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button