Rhaglenni Rhianta
Mae rhai rhaglenni yn benodol ar gyfer rhieni/gofalwyr â babanod newydd-anedig sy’n annog meithrin perthynas glòs â’r babi ac ymlyniad rhyngddynt.
‘Dod i adnabod eich babi’ – ar gyfer rhieni/gofalwyr sydd â babanod newydd-anedig hyd at 9 mis oed. Dyma ffordd hwyliog a rhyngweithiol o ddysgu mwy am ddatblygiad eich babi. Caiff sesiynau eu cynnal gydag Ymwelydd Iechyd er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf. Bob wythnos, mae pwnc gwahanol, er enghraifft diddyfnu, diogelwch yn y cartref, iaith gynnar, cyfathrebu a datblygiad yr ymennydd, storïau, caneuon a llawer mwy.
‘Datblygiad a Thylino i Fabanod’ – ar gyfer rhieni/gofalwyr sydd â babanod o 8 wythnos oed. Mae sesiynau’n helpu rhieni i ddysgu am dechnegau ymlacio a thylino sylfaenol er mwyn helpu eich babi i gysgu, lleihau colig a gwynt a llonyddu eich babi.
Wrth i blant dyfu, mae rhaglenni pellach ar gael. Mae’r rhaglenni hyn yn helpu hyder rhieni/gofalwyr o ran ymdrin ag ymddygiad plant drwy ddefnyddio strategaethau rhianta cadarnhaol a chreu dulliau cadarnhaol o feithrin perthnasoedd iach gyda’n plant.
‘Rhaglen y Blynyddoedd Rhyfeddol i Blant Bach’(Webster Stratton) – ar gyfer rhieni/gofalwyr sydd â phlant bach rhwng 1 a 3 oed. Sesiynau anffurfiol yw’r rhain sy’n ymdrin â nifer o wahanol bynciau megis datblygiad plant bach, helpu plant bach o ran dysgu rhannu a phwysleisio pwysigrwydd canmoliaeth er mwyn cynyddu ymddygiad cadarnhaol yn ogystal â sut i ddelio â phyliau o dymer.
‘Ymdrin ag Ymddygiad Plant’ – ar gyfer rhieni/gofalwyr sydd â phlant rhwng 1 a 3 oed. Mae’r sesiynau yn helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyfathrebu â phlant drwy ddefnyddio strategaethau rhianta cadarnhaol er mwyn rheoli ymddygiad annerbyniol. Gall y sesiynau helpu i annog cydweithrediad ymysg ein plant. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnig cyfle i rieni ennill achrediad Agored.
‘Rhaglen Cysylltiadau Teuluol: Magu Plant’ – ar gyfer rhieni/gofalwyr sydd â phlant rhwng 1 a 3 oed. Mae’r sesiynau hyn yn hyrwyddo iechyd emosiynol a llesiant meddyliol, ac yn gallu ein helpu ni fel rhieni i ddeall a rheoli teimladau ac ymddygiad yn gadarnhaol. Er mwyn meithrin perthnasoedd o ran magu plant. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnig cyfle i rieni ennill achrediad Agored.
Mae tîm Magu Plant Dechrau’n Deg am eich atgofio fod ffeindio amser i fagwraeth eich hun yn bwysyg iawn i eich iechyd emosiynol.
Dyma ddull atgoffa.