prev
next
play
pause

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

Beth yw y Cynnig Gofal Plant?

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gofal plant fforddiadwy, sydd ar gael ac yn hygyrch yn galluogi rhieni i weithio, gan gefnogi ei hymgyrch i hybu twf economaidd, mynd i’r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldebau.

Mae’r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar Feithrin y Cyfnod Sylfaen (FPN) a ariennir agofal plant a ariennir i rieni cymwys, plant 3 a 4 oed, sy’n gweithio, a hynny hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Gan fod y Cynnig Gofal Plant i Gymru yn gynnig cyfun, sy’n cynnwys addysg FPN a darpariaeth gofal plant, mae’n rhaid i blant fod mewn oedran penodol i fod yn gymwys i gael y ddwy elfen hyn ar yr un pryd.

Mae’r cynnig yn uchafswm o 30 awr o addysg gyfun a gofal plant. Os yw rhieni’n gymwys, bydd plant fel arfer yn derbyn elfen gofal plant y cynnig o’r tymor ar ôl eu penblwydd yn dair oed, nes eu bod yn cael cynnig lle addysg amser llawn.

*Ni ellir newid oriau Cyfnod Sylfaen am oriau Gofal Plant*

Cyllid Dysgu Sylfaen

Os oes gennych ymholiadau am Gyllid Addysg y Blynyddoedd Cynnar, cysylltwch â Thim y Blynyddoedd Cynnar drwy e-bost: nascynhelir@sirgar.gov.uk

Am wybodaeth bellach cliciwch ar y linc

https://fis.carmarthenshire.gov.wales/parenting/education/?lang=cy

Hawl ‘wythnosau gwyliau’ y Cynnig Gofal Plant yn ystod gwyliau’r ysgol

Bydd y Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir bob wythnos i rieni plant 3 a 4 oed, sy’n gweithio, a hynny hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae 39 wythnos yn y tymor, ac mae’r 9 wythnos sy’n weddill o’r cynnig yn cael ei drin fel amser nad yw yn y tymor neu ‘ddarpariaeth wyliau’. Yn ystod y ddarpariaeth wyliau 9 wythnos hon, bydd plant cymwys yn derbyn 30 awr o ofal plant bob wythnos yn unig.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn nodi pa rai o’r 13 wythnos o’r cyfnod di-dymor sydd wedi’u dynodi’n 9 wythnos o ddarpariaeth wyliau er mwyn caniatáu hyblygrwydd i rieni sydd mewn gwahanol swyddi, fel y rhai sy’n gorfod gweithio dros yr haf neu yn ystod gwyliau’r Nadolig. Fodd bynnag, ni fydd rhieni’n gallu ‘ymestyn’ eu hawliau dros wythnosau na throsglwyddo oriau nas defnyddiwyd ar draws wythnosau.

Bydd darpariaeth wyliau yn cael ei dyrannu ar ddechrau pob tymor y mae’r plentyn yn gymwys i gael y cynnig. Dyrennir 3 wythnos o ddarpariaeth wyliau i blant bob tymor. Gellir trosglwyddo unrhyw ddyraniad nas defnyddiwyd a’i ddefnyddio yn y tymor nesaf, ar yr amod eu bod yn dal yn gymwys i dderbyn y cynnig. Bydd plant sy’n gymwys i gael y cynnig am un neu ddau dymor yn unig yn derbyn darpariaeth wyliau 3 wythnos ar ddechrau pob tymor, yn yr un modd ag y byddai unrhyw blentyn arall.

Gweler y 9 wythnos ganlynol o hawl statudol i wyliau pro-rata:

  • Bydd gan blentyn sy’n gymwys i gael y cynnig am dri thymor hawl i gael 9 wythnos o ofal plant yn ystod gwyliau ysgol.
  • Bydd gan blentyn sy’n gymwys i gael y cynnig am ddau dymor hawl i gael 6 wythnos o ofal plant yn ystod gwyliau ysgol.
  • Bydd gan blentyn sy’n gymwys i gael y cynnig am un tymor hawl i gael 3 wythnos o ofal plant yn ystod gwyliau ysgol.

Bydd angen gwneud ceisiadau am yr hawl statudol i wyliau o leiaf 4 wythnos cyn y dyddiad y mae angen yr hawl statudol i wyliau arnoch. Bydd y rhain yn cael eu gwirio gan yr Uned Gofal Plant o fewn y mis cyn y gwyliau. Os bydd eich cais yn llwyddiannus fe’ch hysbysir trwy e-bost.

Pan fydd plentyn yn cael cynnig lle mewn addysg amser llawn cyn mis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn bedair oed (e.e. tymor ar ôl ei ben-blwydd yn bedair oed neu’r tymor y mae’n troi’n bedair oed), mae’r plentyn hwnnw’n dal yn gymwys i gael 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth wyliau hyd at y mis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn bedair oed.

Mae’n bosibl y bydd plant a anwyd yn nhymor yr hydref neu’r gwanwyn yn gymwys i gael y cynnig am fwy na blwyddyn. Mewn achosion o’r fath, ar ddechrau’r ail flwyddyn, rhoddir dyraniad newydd o ddarpariaeth wyliau am weddill yr amser y maent yn gymwys i dderbyn y cynnig.

Noder, pan fydd plentyn yn gymwys i gael addysg amser llawn, nid oes ganddo hawl bellach i gael y cynnig gofal plant yn ystod y tymor.


Meini Prawf Cymhwysedd

I gael yr elfen gofal plant o’r cynnig, mae’n rhaid i rieni a gwarcheidwaid:

  • Fod â phlentyn 3 neu 4 oed ac yn gallu cael mynediad i Addysg Feithrin Cyfnod Sylfaen yn rhan-amser
  • Byw yn Sir Gaerfyrddin
  • Bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac yn byw yng Nghymru’n barhaol. Mae’n rhaid i’r ddau riant/parau sy’n cyd-fyw fod yn gweithio mewn teulu â dau riant, neu’r unig riant mewn teulu ag un rhiant;
  • Bod y ddau riant yn gyflogedig, ond bod y naill riant a’r llall i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar absenoldeb rhieni, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu.
  • At ddibenion y peilot, bydd angen i rieni/gofalwyr ennill yr hyn sy’n cyfateb i o leiaf 16 awr ar gyflog byw cenedlaethol neu isafswm cyflog cenedlaethol yr wythnos; neu dderbyn budd-daliadau gofalu penodol. Ni fydd rhiant yn gymwys os yw’n ennill mwy na £100,000 y flwyddyn –  fesul rhiant.
  • O fis Medi 2022, bydd rhieni/gwarcheidwaid sydd mewn addysg neu hyfforddiant ac sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn gallu manteisio ar y Cynnig Gofal Plant.

Pan fydd rhieni wedi gwahanu ond nad ydynt yn rhannu gwarchodaeth gyfartal o’r plentyn, bydd y rhiant â phrif warchodaeth yn gymwys i gael y cynnig (os yw’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd). Pan fydd rhieni’n rhannu gwarchodaeth gyfartal bydd angen enwebu un rhiant fel rhiant arweiniol y cynnig.

Bydd angen i rieni, gwarcheidwaid, llys-rieni a phartneriaid sy’n cyd-fyw fodloni’r meini prawf cymhwysedd er mwyn i blentyn sy’n byw ar yr aelwyd honno gael y cynnig.

Beth fydd yn digwydd os byddaf i neu fy mhartner yn colli ein swydd?

Os nad yw rhiant bellach yn gymwys, rhoddir cyfnod eithrio dros dro o 8 wythnos pryd y gall barhau i gael y cynnig.

Eithriadau i fod yn gymwys:

Bydd rhieni nad ydynt yn y gweithle am gyfnod naill ai oherwydd salwch neu oherwydd absenoldeb rhiant (gan gynnwys absenoldeb mamolaeth, absenoldeb rhieiniol statudol a rennir â thâl neu absenoldeb mabwysiadu) yn dal i fod yn gymwys i gael y cynnig gan eu bod yn cael eu hystyried yn gyflogedig.

Pan fydd un rhiant yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a’r llall yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol, bydd y plentyn hwnnw’n dal i allu cael y cynnig:

  • Budd-dal analluogrwydd
  • Lwfans gofalwr
  • Lwfans anabledd difrifol
  • Budd-dal analluogrwydd hirdymor
  • Lwfans cyflogaeth a chymorth
  • Credydau yswiriant gwladol ar sail analluogrwydd i weithio neu allu cyfyngedig i weithio

Ni fydd teuluoedd lle mae’r ddau riant yn derbyn y budd-daliadau uchod yn gallu derbyn y cynnig gofal plant.

Gofalwyr teulu a ffrindiau (a elwir hefyd yn ofalwyr sy’n berthnasau) yw’r rheiny sydd wedi dwyn cyfrifoldeb am blentyn neu lys-blentyn nad yw’n blentyn neu’n lys-blentyn iddyn nhw oherwydd:

  • Nid oes gan y plentyn unrhyw rieni neu mae ganddo rieni sy’n methu â gofalu am y plentyn;
  • Mae’n debygol y byddai’r plentyn fel arall yn derbyn gofal gan awdurdod lleol oherwydd pryderon mewn perthynas â lles y plentyn

Gall gofalwyr sy’n berthnasau gael y cynnig cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf enillion ac yn cael eu hystyried fel rhai sy’n ‘gweithio’, yn byw yn Sir Gaerfyrddin ac yn gofalu am blentyn sydd o fewn yr oedran cywir i gael y cynnig.

 

Y broses ymgeisio ar gyfer rhieni/gofalwyr

Bydd ceisiadau’n cymryd hyd at 14 diwrnod i’w prosesu oherwydd y nifer disgwyliedig o geisiadau.  Bydd y cyllid yn dechrau o’r diwrnod y caiff y cais ei gymeradwyo.  Anogir rhieni i gyflwyno cais gyda’r HOLL dystiolaeth gywir.  Bydd hyn yn cyflymu’r broses.

 


Gwybodaeth bwysig i rieni cyn gwneud cais:

Mae’n rhaid i rieni/gofalwyr sicrhau bod y wybodaeth ganlynol ar gael ar ffurf llun neu’n electronig yn barod i’w llwytho fel rhan o’u cais.

  • Tystysgrif geni (fersiwn hir) neu tystysgrif geni (fersiwn fer) gyda phrawf o gyfrifoldeb rhiant
  • Prawf o’ch cyfeiriad (Bil y dreth gyngor neu fil cyfleustodau, dyddiedig o fewn y 3 mis diwethaf)
  • Slipiau cyflog – 3 slip cyflog misol mwyaf diweddar ar gyfer pob rhiant neu os telir yn wythnosol, slip cyflog ar gyfer pob wythnos am y 3 mis diwethaf.
  • Os ydych yn hunangyflogedig, eich Ffurflen Dreth Hunanasesu ddiweddaraf.
  • Os yw rhieni mewn cyflogaeth newydd ac nad oes ganddynt slip cyflog, mae’n rhaid iddynt gael copi o’u contract neu lythyr gan y cyflogwr yn cadarnhau’r incwm a’r oriau a weithir.

Bydd rhieni nad ydynt yn atodi tystiolaeth fel rhan o’u cais yn oedi’r broses gymeradwyo. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sydd wedi’u cwblhau’n llawn.

Bydd ymateb i ymholiadau megis “pryd fydd fy nghais yn cael ei brosesu?” dim ond yn oedi tîm Gofal Plant Ceredigion rhag ymdrin â cheisiadau gwirioneddol. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chysylltu â’r tîm o fewn y cyfnod o 28 diwrnod. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd.

Sylwch, hyd yn oed os ydych wedi cyflwyno cais ar gyfer y Cynnig – Os bydd rhiant yn defnyddio gofal plant cyn i’w gais gael ei gymeradwyo, mae’r rhiant yn atebol am dalu costau’r gofal plant ac ni ellir ôl-ddyddio unrhyw gyllid gofal plant ar gyfer y cyfnod cyn i gais gael ei gymeradwyo.

 

Lleoliadau Nas Cynhelir Sir Gâr Ionawr 2023

Rhestr O Ysgolion Cyfnod Sylfaen

Gwybodaeth Darparwyr Gofal Plant

Doeddwn i ond eisiau anfon nodyn o ddiolch ichi am eich holl waith ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gweithio ar gasglu ychydig o wybodaeth ar gyfer menter leol i addysgu plant a phobl ifanc ynghylch canlyniadau cyffuriau ac alcohol. Rwy’n gweithio ar baratoi pamffled ac rwyf wedi dysgu llawer o’ch tudalen. Sylwais fod gennych rai adnoddau gwych iawn. Da Iawn!
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button